Â鶹ԼÅÄ

Covid: Galw am gau pob ysgol 'o leiaf wythnos cyn y Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dr Eilir Hughes: Cau ysgolion yn gynt "i gael Nadolig rhydd o Covid"

Dylai holl ysgolion Cymru gau o leiaf wythnos cyn y Nadolig er mwyn lleihau'r risg fod plant yn heintio perthnasau dros y gwyliau, yn ôl meddyg teulu.

Dywedodd Dr Eilir Hughes y byddai torri'n gynt ar gyfer y gwyliau yn golygu mwy o siawns o ddod i wybod os oedd plentyn wedi dal Covid cyn iddyn nhw gymysgu gyda mwy o bobl.

Ar hyn o bryd mae ysgolion yn 12 o'r 22 sir yng Nghymru - pob un yn y de - yn gorffen tymor yr hydref ar 17 Rhagfyr, tra bod y gweddill yn gorffen ar 21 neu 22 Rhagfyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i awdurdodau lleol oedd dyddiadau diwedd tymor, a'u bod "am wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi unrhyw darfu ar addysg a gofal plant".

'Nadolig yn bwysig i ni i gyd'

Llynedd, gydag achosion Covid yn cynyddu unwaith eto ond y rhaglen frechu heb ddechrau'n iawn, bu'n rhaid i Gymru fynd i mewn i gyfnod clo arall ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.

Er bod mwyafrif y boblogaeth wedi eu brechu bellach - a rhai eisoes wedi cael hwb frechlyn - mae cyfraddau Covid yn parhau i fod yn "uchel iawn ar hyn o bryd" yn ôl Dr Hughes, "yn enwedig yn ein plant a phobl ifanc".

"Mae disgwyl i'r cyfraddau uchel barhau wrth i'r tywydd oeri a phobl dreulio mwy o amser o dan do," meddai'r meddyg o Ben LlÅ·n.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Y rheswm mwyaf amlwg [dros gau yn gynt] yw ei fod yn helpu i atal 'chwaneg o heintiadau ddigwydd ymysg y plant yn ystod y wythnos olaf sy'n arwain at y Nadolig - llai o gymysgu, llai o heintiadau.

"Mae llawer o bobl yn aros i gael eu hyblyn, sef y brechiad booster, felly byddai dal y feirws dros y Nadolig, o bosib gan blentyn, yn golygu gohirio ei chael hi ymhellach i'r gaeaf."

Ar hyn o bryd mae ysgolion Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yn cau ar 17 Rhagfyr.

Bydd y tymor yn dod i ben ar 21 Rhagfyr i ysgolion Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, tra bod rhai Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Powys, Wrecsam ac Ynys Môn yn cau ar 22 Rhagfyr.

Er y gallai dal Covid yn yr wythnos olaf cyn 17 Rhagfyr dal olygu rhywfaint o hunan ynysu dros wyliau'r Nadolig, meddai Dr Hughes, o leiaf y bydden nhw wedi cael prawf positif cyn iddyn nhw gymysgu ag aelodau eraill o'r teulu.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Awgrymodd y gallai ysgolion hefyd barhau i fod ar agor yn y dyddiau olaf cyn y Nadolig ar gyfer plant gweithwyr allweddol, fel oedden nhw am gyfnodau y llynedd.

"Mae cyfnod y Nadolig yn bwysig i blant, eu teuluoedd a'u hathrawon," meddai.

"Mae'n bwysig i ni i gyd, yn enwedig yn dilyn siom y llynedd, felly mae cael cau'n gynt yn rhoi'r cyfle gorau i bobl gael mwynhau'r Nadolig yn rhydd o haint, a threulio amser gyda'i gilydd yn fwy diogel."

'Osgoi tarfu'

Dywedodd uwch swyddog polisi NEU Cymru, Mary van den Heuvel, ei bod hi'n parhau i fod yn "gyfnod heriol iawn i bawb yn y byd addysg" ac y dylai ysgolion "gymryd pob gofal posib i rwystro lledaeniad y feirws".

"Bydd ein haelodau'n ymwybodol fod plant a phobl ifanc wedi methu llawer o amser ysgol dros yr 20 mis diwethaf," meddai.

"Felly bydd yn rhaid ystyried unrhyw benderfyniad i gau'n gynnar dros wyliau'r Nadolig yn ofalus.

"Dydyn ni ddim yn credu bod yr ardaloedd hynny sydd yn gorffen yn gynt yn bwriadu newid eu cynlluniau, tra bod ardaloedd eraill yn rhoi mwy o amser i ffwrdd i'r plant yn y Flwyddyn Newydd - ond mae nawr yn gyfle i feddwl sut orau i ddefnyddio dyddiau HMS."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dyddiadau tymor ysgol yn cael eu penderfynu gan awdurdodau lleol, neu gyrff llywodraethu perthnasol, a gellir eu newid drwy ddilyn y broses statudol.

"Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi unrhyw darfu ar addysg a gofal plant.

"Rydym wedi cyhoeddi fframwaith lleol i helpu ysgolion i weithredu'n ddiogel a theilwra ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg lleol."