Â鶹ԼÅÄ

Galw am gau ysgolion wythnos yn gynnar cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Pryder UCAC ydy y gallai disgyblion orfod hunan-ynysu dros ddydd Nadolig

Fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried cau ysgolion yn gynnar a symud dysgu ar-lein am wythnos olaf y tymor cyn y Nadolig, yn ôl undeb dysgu.

Dywedodd undeb athrawon UCAC y gallai achosion positif mewn ysgolion yn ail hanner mis Rhagfyr olygu bod 'swigod' o ddisgyblion a staff yn gorfod hunan-ynysu dros ddydd Nadolig.

Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, mae'r undeb yn nodi dadleuon dros gau lleoliadau ar 11 Rhagfyr - wythnos cyn diwedd y tymor i'r mwyafrif o ysgolion a cholegau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl i ddysgu wyneb yn wyneb barhau tan ddiwedd y tymor oni bai bod rhesymau clir o ran iechyd cyhoeddus i beidio gwneud hynny.

'Pryder difrifol'

Mae'r llythyr yn cyfeirio at "bryder difrifol" ymhlith aelodau UCAC ynglŷn â "disgyblion a myfyrwyr yn parhau i fynychu safle addysgol wythnos cyn diwrnod Nadolig".

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young: "Pe bai disgybl/myfyriwr yn cael ei brofi'n bositif gyda Covid-19 yn ystod wythnos olaf y tymor byddai hynny'n golygu bod y swigen gyfan hynny yn gorfod hunan-ynysu dros y Nadolig, heb allu cwrdd ag aelodau o deuluoedd estynedig.

"Gallai'r un peth fod yn wir am y gweithlu addysg.

"Yn ogystal, gallai gwaith Profi, Olrhain a Diogelu fod yn parhau i arweinwyr a hynny ar ddiwrnod Nadolig, sy'n hollol annerbyniol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 87.9% o ysgolion uwchradd wedi cael o leiaf un achos o Covid-19 ers dechrau'r tymor

Byddai sicrhau nad yw disgyblion yn yr ysgol yn y cyfnod cyn y Nadolig yn rhoi "mwy o sicrwydd i deuluoedd", yn ôl y llythyr.

Mae'n dweud: "Rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau parhad addysg i holl ddisgyblion a myfyrwyr Cymru, yn enwedig yn sgil y tarfu a fu yn gynharach yn y flwyddyn, ac sydd wedi parhau i ryw raddau ers mis Medi.

"Rydym o'r farn y byddai gwneud cyhoeddiad buan ynglŷn â hyn yn galluogi nid yn unig i'r gweithlu baratoi'n drylwyr am yr wythnos honno, ond hefyd yn galluogi teuluoedd i wneud trefniadau gofal plant amgen yn ôl yr angen."

75% o blaid cau yn gynnar

Dywedodd UCAC bod 1,000 o aelodau wedi ymateb i arolwg a bod 75% o blaid dysgu ar-lein yn ystod wythnos olaf y tymor.

Mae'r undeb hefyd wedi gofyn i'r Gweinidog Addysg ystyried mesur posib arall, sef cynnig profion Covid-19 i aelodau staff unwaith bod cyswllt â disgyblion wedi dod i ben, o 18 Rhagfyr ymlaen.

Mae'n ymddangos bod rhai awdurdodau lleol hefyd o blaid cau safleoedd ysgolion wythnos yn gynnar, er bod darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant bregus yn un rhwystr posib.

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 50.3% o ysgolion cynradd ac 87.9% o ysgolion uwchradd wedi cael o leiaf un achos o Covid-19 ers dechrau'r tymor.

Roedd yna 414 o brofion positif ymhlith disgyblion ysgol neu staff yn yr wythnos hyd at 25 Tachwedd, yn ôl y data.

Beth ydy barn y llywodraeth?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "deialog reolaidd" gyda chynghorau ac undeb yn parhau.

"Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod addysg pob plentyn a pherson ifanc yn parhau gyda chyn lleied o darfu â phosibl," meddai.

"Fe fydden ni'n disgwyl i ddysgu wyneb yn wyneb barhau tan ddiwedd y tymor oni bai bod rheswm clir iechyd cyhoeddus i beidio â gwneud hynny."