Â鶹ԼÅÄ

Prinder athrawon cyflenwi'n 'broblem enfawr' i ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Rebecca Williams o UCAC fod athrawon yn gweithio "tu hwnt i'r hyn ddylen nhw 'neud"

Mae prinder athrawon cyflenwi yn rhoi pwysau enbyd ar ysgolion - dyna rybudd penaethiaid ysgolion ac undebau'r athrawon.

Gyda chynifer o athrawon yn absennol o'r gwaith, mae dod o hyd i athrawon cyflenwi i gamu i'r bwlch yn heriol tu hwnt.

"Mae'n broblem enfawr," medd Helen Wynne, Pennaeth Ysgol Gynradd Y Felin yn Felinfoel, Llanelli.

"Mae angen mwy o staff yn gyffredinol ar yr asiantaethau hyn, ond yn anffodus, ma' 'na brinder yn gyffredinol o bobl sy'n ymgeisio."

"Hefyd, mae rhai o'r probleme' 'di bod o ran cael y gwiriade' DBS trwyddo ond fi'n credu erbyn nawr bod y llywodraeth wedi cydnabod bod hynny'n broblematig ac yn bwriadu hwyluso'r system yma fel bod nhw'n gallu prosesu hynny yn gyflymach.

"Petai'r gwiriadau troseddu yn cael eu prosesu ynghynt, dwi'n credu y bydde mwy o unigolion gyda'r asiantaethau i'w rhoi mewn ysgolion."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna brinder cyffredinol o bobl yn ymgeisio am y swyddi, meddai Helen Wynne

Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles yn dweud ei fod yn ymwybodol bod gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl.

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i drafod hyn ar frys gyda'r gwasanaeth.

Yn ôl Cyngor Y Gweithlu Addysg, mae 4,500 o athrawon ac 8,500 o staff cynorthwyol yn y gadwyn gyflenwi ar hyn o bryd, gyda 50 o asiantaethau yn eu cynrychioli.

Ond dyw hynny ddim yn cwrdd â'r galw aruthrol ar hyn o bryd.

'Sefyllfa mor argyfyngus'

Carolyn Rahman yw Cyfarwyddwraig Equal Education Partners, sy'n darparu athrawon cyflenwi.

"Ni'n brysur ofnadw'," meddai. "Gallen i fod yng Nghaerdydd un diwrnod, lawr yn Sir Benfro diwrnod ar ôl hynny ac yna Ceredigion.

"A fi mas fy hunan yn dysgu ar hyn o bryd, yn lle bod yn y swyddfa, a fi'n helpu ysgolion mas i sicrhau eu bod nhw'n gallu darparu addysg barhaus i'r plant ar ôl colli cyfnod o bron i ddwy flynedd o addysg.

"Ni'n gwerthfawrogi'r gwaith wrth gwrs, ond mae'r staff yn y swyddfa yn gweithio o fore tan nos ac yn ystod y penwythnos hefyd i sicrhau fod gan ysgolion ddigon o staff. Mae lot o bwyse, a gweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Carolyn Rahman: "Ni'n brysur ofnadw'"

Mae Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC yn galw am gynllun cadarn er mwyn lleddfu'r trafferthion presennol.

"Ma'r llywodraeth wedi parhau â'r Gronfa Galedi hyd at hanner tymor a thu hwnt nawr - ry'n ni newydd glywed hynny, felly mae hynny'n helpu ar yr ochr allanol, fel bod ysgolion yn gwybod bod arian ar gael i dalu am gyflenwi.

"Ond dyw e ddim yn helpu o ran sicrhau fod digon o athrawon yna i gamu i'r bwlch.

"Yn y tymor byr, dwi'n credu bod y sefyllfa mor argyfyngus, mae ishe i ni edrych i weld ble ma' 'na athrawon cymwys yn y system yn ehangach, dd'wedwn ni yn gweithio i'r [Gwasanaeth Addysg] Consortia neu i [arolygwyr] Estyn.

"Dyw hynny ddim yn hollol rhwydd wrth gwrs, ond mae ishe i ni edrych ar hynny."

Tâl ac amodau 'annheg'

"Yn y tymor hirach, ond nid rhy hir chwaith, mae ishe i ni ail edrych ar y drefn gyflenwi, oherwydd dyw e ddim 'di bod yn gweithio ers blynydde'.

"Mae'n gwbl annheg i'r athrawon sy'n gweithio trwy asiantaethau, sy' ddim yn cael y tâl ac amodau y dylen nhw fod yn cael.

"Ac felly, mae'n siŵr fod llai o athrawon yn mynd i mewn i gyflenwi oherwydd hynny."

Yn Ysgol Y Felin, mae'r pennaeth Helen Wynne yn gobeithio am y gorau.

"Efallai ein bod ni dros y gwaethaf, pwy a wÅ·r, ond wrth gwrs ma' afiechydon eraill megis y ffliw yn bwrw ysgolion, a hynny hefyd yn golygu bod angen athrawon i gyflenwi ar yr un pryd."

Pynciau cysylltiedig