Â鶹ԼÅÄ

Codiad cyflog i athrawon llanw yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
athroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyflogau athrawon ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru yn 2018

Bydd athrawon llanw yng Nghymru yn gweld isafswm cyflog yn cael ei gyflwyno cyn hir er mwyn sicrhau nad yw asiantaethau eraill yn cymryd y rhan fwyaf o'r arian sy'n cael ei dalu.

Mae'r rhai sydd wedi ymgyrchu am hyn yn dweud fod nifer yn gadael y proffesiwn oherwydd cyflogau isel, ac fe ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar bod dau gyfarwyddwr un asiantaeth cyflenwi athrawon wedi derbyn £1m o daliadau.

Bydd y newid yn golygu y bydd gorfodaeth gyfreithiol ar gwmnïau o'r fath i ddangos faint o arian mae athrawon yn ei dderbyn a faint sy'n mynd i'r asiantaeth.

Mae'r asiantaethau yn mynnu eu bod yn rhoi gwerth am arian.

Yn ôl adroddiad gan undeb yr NEU, y llynedd roedd mwy na chwarter y mwy na 4,500 o athrawon llanw yng Nghymru yn derbyn llai na £100 y dydd.

Mewn cyfarfod o Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad, dywedodd yr AC Neil McEvoy bod athrawon yn cael eu twyllo wrth i asiantaethau gymryd hyd at £160 am bob athro, bob dydd, tra bod yr athro yn derbyn £85 ar gyfartaledd.

Cafodd tua £40m ei wario ar athrawon llanw yng Nghymru yn 2016-17, ond mewn deiseb i'r Cynulliad dywedodd un athro llanw eu bod yn cael eu hecsbloetio gan fod "asiantaethau yn lleihau cyflogau athrawon o 40-60%".

Dadansoddiad gohebydd addysg Â鶹ԼÅÄ Cymru, Bethan Lewis

Mae problemau gyda'r system o drefnu athrawon llanw wedi dod i'r amlwg ers rhai blynyddoedd, ond mae atebion yn anoddach eu canfod.

Yn y gorffennol roedd gan gynghorau neu ysgolion eu rhestrau eu hunain o staff fyddai'n gallu camu i'r adwy yn ystod cyfnodau o salwch neu gyrsiau hyfforddi.

Er bod hynny'n dal i ddigwydd mewn mannau, mae asiantaethau nawr yn chwarae rôl amlycach, gan ofalu bod gwiriadau priodol yn cael eu gwneud fel bod prifathrawon ond yn gorfod gwneud un alwad ffôn.

Mae'r asiantaethau'n dadlau fod hynny'n fwy cost-effeithlon, ond mae eraill yn gwrthwynebu cwmnïau preifat yn gwneud elw wrth i ysgolion wynebu heriau ariannol.

Gallai cynlluniau'r Gweinidog Addysg ddatrys rhai o'r problemau, yn enwedig ynglŷn â chyflogau, ond ni fydd yn darparu cofrestr o athrawon llanw i Gymru gyfan fel y mae rhai wedi bod yn galw amdano.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gan ysgolion yr hawl i gyflogi athrawon llanw yn uniongyrchol yn hytrach na thalu ffi i asiantaeth

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn cyfaddef bod costau asiantaethau yn "aneglur" a bod y drefn newydd yn mynd i "sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y system yn cael eu gwarchod yn well".

"Roedd yn bryder i mi fod diffyg tryloywder am ffïoedd ac elw rhai o'r sefydliadau yma," meddai wrth y Pwyllgor Deisebau.

"Mae problemau gydag elw cwmnïau preifat yn bryder cyhoeddus, nid yn y siambr yma'n unig. Dyna pam fod yna gytundeb newydd.

"Fe fydd yn ofynnol i ddatgelu'n llawn pan mae ysgol yn defnyddio gwasanaethu asiantaeth faint o'r gost sy'n mynd i'r athro a faint fydd ffi'r asiantaeth."

Mae cwmni New Direction o Gaerdydd wedi bod yr un mwyaf blaenllaw wrth ddarparu athrawon llanw yng Nghymru, ond bydd y cytundeb newydd ddaw i rym ym mis Medi yn gweithio fesul awdurdod lleol yn hytrach nag ar draws Cymru gyfan.

Bydd hefyd yn cynnwys gorchymyn i athrawon wneud hyfforddiant cyson cyn i'r cwricwlwm newydd ddod i rym yng Nghymru yn 2022.

Mae ysgolion hefyd wedi cael gwybod nad oes rhaid iddyn nhw fynd drwy asiantaeth i gyflogi athrawon llanw, ac y byddai hynny'n osgoi ffioedd yn llwyr.