Â鶹ԼÅÄ

Dim cymorth ariannol i rai athrawon cyflenwi

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth wagFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed nifer o athrawon cyflenwi eu bod yn gorfod byw ar incwm isel

Mae rhai athrawon cyflenwi sy'n cael eu cyflogi gan gynghorau yn ganolog yn honni eu bod wedi cael eu gadael heb unrhyw gyflog na chefnogaeth ers i ysgolion gau.

Mae'r rhan fwyaf o athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi gan asiantaethau, sy'n golygu eu bod yn gymwys i fod yn weithwyr ar gennad yn unol â chynlluniau llywodraeth San Steffan.

Mae nifer o gynghorau sir y gogledd yn cyflogi athrawon cyflenwi yn ganolog, ac yn ôl undebau dyw nifer ohonynt ddim yn cael cyflog.

Dywed undeb athrawon UCAC eu bod yn siomedig nad yw pob cyngor yn trin athrawon cyflenwi "ag urddas".

Ymateb cynghorau

Fe anfonodd Cyngor Sir Fôn e-bost at athrawon ac undebau ddydd Gwener 15 Mai yn cadarnhau na fydd athrawon cyflenwi sy'n gweithio o ddydd i ddydd oherwydd absenoldebau staff yn cael eu talu o gwbl. Ond ychwanegodd y cyfarwyddwr addysg, Rhys Howard Hughes "eu bod yn trafod yr agwedd hon ar hyn o bryd a byddwn yn dod i drefniant terfynol cyn diwedd yr wythnos".

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod gweithwyr yn "annhebygol o fod yn gymwys am gefnogaeth ond eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn trafod gyda chynghorau eraill yn y gogledd".

Mae Cyngor Sir Ceredigion, sy'n cyflogi athrawon cyflenwi yn ganolog, wedi dweud eu bod yn gweithio gydag ysgolion er mwyn gweld pa daliadau y gellid eu gwneud i athrawon cyflenwi, fel eu bod yn peidio wynebu caledi.

Byw ar gynilion

Yn ôl un sy'n athro cyflenwi, nad oedd am i ni rannu ei enw gan ei fod yn poeni y bydd ysgolion yn llai tebygol o'i gyflogi, mae e wedi ei adael bron heb unrhyw gyflog.

"Dwi'n rhedeg tŷ, mae gen i filiau i'w talu. Ges i fy nhalu fis diwethaf ond ar ôl hynny does 'na ddim byd yn dod i mewn," meddai. "'Dwi basically yn defnyddio fy savings."

Yn ôl y gweithiwr, mae cynghorau sir yn "dibynnu" arnyn nhw o ddydd i ddydd, ond erbyn hyn maen nhw wedi eu gadael heb unrhyw gefnogaeth.

'Rhaid i athrawon gael eu haeddiant'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ioan Rhys Jones o UCAC bod angen trin athrawon cyflenwi yn deg

Yn ôl undeb athrawon UCAC, mae cynghorau siroedd Ddinbych, Y Fflint a Wrecsam - sy'n cyflogi rhai athrawon cyflenwi yn ganolog - eisoes wedi trefnu cefnogaeth i athrawon cyflenwi.

Dywedodd Ioan Rhys Jones o'r undeb eu bod nhw'n "pryderu yn fawr am athrawon cyflenwi na sy'n derbyn unrhyw gefnogaeth ariannol o gwbl ar hyn o bryd.

"Ymysg y rhai sydd yn cael eu heffeithio fwyaf, mae'r rheiny sydd â chyflogaeth ad hoc o ran nifer yr oriau dros gyfnod byr neu ganolig.

"Mae llawer o'r rhain yn cael eu cyflogi drwy restr sirol. Yng Ngwynedd ac Ynys Môn dyma'r unig ffordd gall athrawon cyflenwi gael eu cyflogi.

"Mae UCAC yn croesawu'r arweiniad clir a roddwyd ar y mater gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 16 Ebrill," ychwanegodd Mr Jones, "ac yn croesawu'r ffaith bod rhai awdurdodau wedi cychwyn gweithredu ar y cyngor hwnnw.

"Fodd bynnag, mae UCAC yn siomedig iawn nad yw nifer o awdurdodau eraill wedi ymateb i'r cyngor hwn eto.

"Yn eu mysg mae Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Eu barn hwy yw nad oes unrhyw ymrwymiad i gynnig gwaith i athrawon cyflenwi, ac felly nad oes unrhyw ymrwymiad i gynnig cefnogaeth ariannol.

"Rydym yn galw ar yr awdurdodau hyn, ac eraill, i sicrhau eu bod yn trin eu hathrawon cyflenwi ag urddas a thegwch, a'u bod, yn debyg iawn i weithwyr eraill yn yr un sefyllfa â hwy, yn derbyn eu haeddiant yn ystod y cyfnod heriol hwn."