'Trawsnewid' darpariaeth gofal brys yng Nghymru

  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru

Bydd darpariaeth gofal brys yng Nghymru'n cael ei "drawsnewid" i helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod "cyfnod eithriadol o heriol," yn ôl cynlluniau Llywodraeth Cymru.

Mae Eluned Morgan wedi amlinellu strategaeth newydd sydd â'r nod o leihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Mae'n cynnwys cyllid blynyddol o £25m i "helpu pobl i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, cyn gynted â phosib".

Daw'r cyhoeddiad cyn y bydd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer ymweliadau ag adrannau brys a rhestrau aros yn cael eu cyhoeddi fore Iau.

Dywedodd Ms Morgan fod y galw ar feddygon teulu, ambiwlansys ac adrannau achosion brys Cymru yn parhau i dyfu y tu hwnt i lefelau a welwyd cyn y pandemig.

"Mae'r staff o dan bwysau gwirioneddol," meddai.

Mae'r llywodraeth, eglurodd, eisiau sicrhau bod pawb yn gallu cael "y gofal o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw yn y lle iawn, y tro cyntaf".

"Yn aml, mae pobl yn teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond mynd at feddyg teulu, adran ddamweiniau ac achosion brys, neu ffonio 999 i gael cyngor neu driniaeth.

"Ond o dan ein cynlluniau newydd ni, gallai pobl sydd ag anghenion gofal brys gael eu trin mewn mannau eraill gan y gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn GIG Cymru."

Mae byrddau iechyd wedi cael cyllid i sefydlu Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys newydd, meddai, lle gellir gweld pobl heb yr angen am apwyntiad meddyg teulu neu fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys.

Bydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer cynlluniau i helpu pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty, gan leihau arosiadau hir diangen a rhyddhau mwy o welyau.

Mae gwyliau'r haf a'r tywydd poeth, ynghyd â llacio cyfyngiadau clo a chynnydd mewn achosion Covid, wedi cynyddu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Ym mis Mehefin fe gafodd gwasanaeth ambiwlans Cymru mwy o alwadau na mewn unrhyw fis arall ers dechrau'r pandemig.

Bu cyfanswm o 41,454 o alwadau ym Mehefin - cyfartaledd o 1,382 y dydd.

Roedd y canran uchaf erioed - 7.9% - yn alwadau 'coch', sef digwyddiadau sy'n cael eu hystyried yn rhai sy'n peryglu bywyd ar unwaith.

Daeth 94,076 o bobl i adrannau brys ysbytai Cymru ym mis Mehefin, sef yr ail ffigwr uchaf ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn Ebrill 2012.

Wrth ymateb i'r data, dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan: "Mae'r data'n dangos bod y pwysau ar wasanaethau gofal brys yn tyfu y tu hwnt i lefelau cyn y pandemig ac yn rhoi straen aruthrol ar staff y GIG."

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 608,602 o bobl ar restrau aros yn disgwyl i ddechrau triniaeth.

Ym mis Mai, roedd 227,753 o gleifion wedi aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Y ffigwr yn Chwefror 2020 oedd 25,634.

Dywedodd Is Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon, Dr Olwen Williams, bod cynlluniau'r llywodraeth yn "wych".

"Mae hyn yn rhywbeth rydan ni i gyd angen.

"Wrth gwrs mae o'n mynd i gymryd ychydig o amser i roi i hwn i mewn.

"Y risg mwyaf ydy bod yna ddim gweithlu yma i neud o ddigwydd.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid cael "mindshift go iawn i wneud i hyn weithio - mae hyn i neud gyda agweddau pobl".