Â鶹ԼÅÄ

Pryder am bwysau ychwanegol ar ambiwlansys gwledig

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys yn Ysbyty Glan Clwyd

Ar drothwy gwyliau'r haf mae 'na bryder am y pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth ambiwlans yn ne Gwynedd.

Mae poblogaeth yr ardal wledig yn chwyddo dros yr haf, gyda miloedd o ymwelwyr yn heidio yno.

Mae llawer o'r canolfannau poblogaidd dros awr i ffwrdd o'r prif ysbytai.

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor ei fod yn poeni am y sefyllfa, gan ddweud bod ambiwlansys Meirionnydd yn cael eu tynnu o'r ardal.

'Pwysau ychwanegol'

"'Dan ni gyd yn gwybod am ambiwlansys yn gorfod ciwio tu allan i ysbytai fel Maelor a Glan Clwyd yn aros i'w cleifion gael mynediad i'r ysbyty," meddai.

"A'r hyn sy'n digwydd ydy bod ambiwlansys o Feirionnydd yn gorfod teithio ymhellach i ogledd-ddwyrain Cymru i ymateb i ddigwyddiadau.

"Mae hyn yn arbennig o bryderus yr adeg yma o'r flwyddyn oherwydd bod cyfnod yr haf yn dod â phwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd wrth fod mwy o bobl yn ymweld â'r ardal.

"'Dan ni angen sicrwydd y bydd y Gwasanaeth Ambiwlans yna i ymateb i unrhyw un fydd eu hangen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mabon ap Gwynfor yn poeni bod ambiwlansys yr ardal yn cael eu galw ymaith, er gwaetha'r ffaith ei bod yn gyfnod prysur

Ychwanegodd Mr ap Gwynfor bod pryderon hefyd am lefelau staffio.

"Mae'n fwy hefyd na daearyddiaeth - rydw i wedi anfon cwestiwn at yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans yn gofyn am atebion ynglŷn â gweinyddiaeth a sicrwydd am nifer y staff," meddai ar Dros Frecwast.

"Mae'n rhaid sicrhau bod yna ddigon o barafeddygon ar gael i sicrhau oriau'r canolfannau ambiwlans, am fod rhai'n cau'n gynnar a methu â gweinyddu'r ardaloedd hyn.

"Ac mae'r galw yn llawer mwy yr adeg hon o'r flwyddyn ​am fod nifer mwy o bobl yn ymweld â'r ardal."

'Dyna natur gwaith ambiwlans'

Ond dywedodd Lee Brookes, cyfarwyddwr gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod "natur gwaith ambiwlans yn golygu bod criwiau yn aml yn mynd i ddigwyddiadau tros ffiniau sirol os mai nhw ydy'r agosaf".

"Mae hyn yn arbennig o wir yn ardaloedd gwledig gogledd a chanolbarth Cymru, lle mae criwiau yn teithio y tu allan i ardal i fynd â chleifion i'r ysbyty.

"Ond ma' gorfod aros i drosglwyddo claf i ysbyty yn golygu nad ydy criwiau wastad ar gael i ymateb i alwadau 999 eraill, a 'dan ni yn parhau i gydweithio efo byrddau Iechyd i geisio datrys hyn.

"Mae yna adolygiad ar hyn o bryd, sy'n cynnwys Gwynedd, fel y gallwn ni fod yn hyderus bod ganddon ni'r niferoedd o adnoddau yn y llefydd iawn ar yr adeg iawn."

Ychwanegodd bod y gwasanaeth yn "parhau i recriwtio ar gyfer ein rheng flaen sy'n golygu, ynghyd â'r llynedd, ein bod ni wedi denu 250 o bobl i'r gwasanaeth".

Pynciau cysylltiedig