Â鶹ԼÅÄ

Pryderon am lefelau staffio ysbyty yn sgil marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Royal Gwent HospitalFfynhonnell y llun, Robin Drayton/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y crwner na chafodd canllawiau arsylwi adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent eu dilyn

Mae crwner wedi codi pryderon ynghylch lefelau staffio ar ôl marwolaeth claf mewn adran achosion brys.

Cafodd Valmai West ei chymryd i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ar ôl cwympo ym mis Ionawr 2020 a bu farw wythnos yn ddiweddarach.

Dywedodd y crwner Caroline Saunders fod prinder staff yn golygu na chafodd Ms West ei gweld yn ddigon aml.

Mewn adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol, dywedodd y crwner ei bod yn poeni y gallai prinder staff roi bywydau cleifion y dyfodol mewn perygl.

Clywodd y cwest nad oedd protocol yr ysbyty na chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar amlder arsylwadau wedi'u dilyn.

Nid oedd Ms West wedi dangos unrhyw arwyddion o waedu mewngreuanol, a godwyd yn ddiweddarach gan sgan CT.

Ond dywedodd y crwner nad oedd prinder staff wedi dylanwadu ar ganlyniad Ms West.

Mae hi wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau staffio.

Ers hynny, mae uned frys yr ardal wedi symud i Ysbyty Athrofaol Grange ger Cwmbrân, er bod uned fân anafiadau yn aros yng Nghasnewydd.

'Oedi wrth ymchwilio'

Yn y cyfamser, mae crwner Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd yno i fynegi ei bryder ynghylch "oedi parhaus wrth ymchwilio i ddigwyddiadau niweidiol".

Mae'r adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol yn dilyn y cwest i farwolaeth Rhian Roberts, 50, o Ddinbych a fu farw yn dilyn gorddos o barasetemol ym mis Tachwedd 2020.

Daeth y cwest i'r casgliad ei bod wedi marw drwy anffawd.

Cafodd Mrs Roberts ei derbyn i Ysbyty Glan Clwyd ar ôl dioddef yr hyn sy'n debygol o fod yn orddos yn ei chartref.

Daeth profion i'r casgliad fod ganddi lefelau uchel iawn o barasetamol yn ei system ac er bod y canlyniadau hyn ar gael ar borth cyfrifiadur am 11:57, ni ddaeth y clinigwyr trin yn ICU yn ymwybodol o hyn tan oriau mân y bore canlynol.

Yn ei adroddiad, dywed crwner Gogledd Cymru, John Gittins ei fod yn poeni nad oes tystiolaeth i sefydlu a wnaed cais sgrin gwenwyneg gan y doctor ai peidio.

Dywed hefyd fod ymchwiliad mewnol a oedd yn argymell cymryd camau i wella cyfathrebu canlyniadau gwaed sy'n peryglu bywyd yn aros ar ffurf ddrafft yn unig a bod oedi wrth ymchwilio i ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu cynlluniau yn peryglu diogelwch cleifion.

Mewn ymateb, dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn dymuno cynnig ein cydymdeimlad diffuant i deulu Mrs Roberts yn ystod yr amser anodd hwn.

"Byddwn yn ystyried canfyddiadau'r cwest yn ofalus a byddwn yn ymateb yn uniongyrchol i'r crwner nodi ein cynllun gwella i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd a bod gwersi yn cael eu dysgu o ganlyniad."

Pynciau cysylltiedig