Â鶹ԼÅÄ

Galw ar Loegr i ddilyn rheolau mygydau Cymru a'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghymru a'r Alban bydd mygydau'n parhau yn orfodol mewn nifer o sefyllfaoedd

Dylai Llywodraeth y DU ddilyn yr un drefn â Chymru a'r Alban o ran mygydau, meddai Prif Weinidog Cymru, gan ddweud y byddai cael un system yn ei gwneud yn symlach.

Mae disgwyl i Gymru symud i gyfyngiadau lefel sero ar 7 Awst, tra bo' hynny'n digwydd ar 19 Gorffennaf yn Lloegr a'r Alban.

Ond hyd yn oed ar y lefel hynny, yng Nghymru a'r Alban bydd mygydau'n parhau yn orfodol yn y mwyafrif o sefyllfaoedd dan do.

Yn Lloegr ni fydd gorfodaeth i wisgo mwgwd mewn unrhyw sefyllfa, er bod Llywodraeth y DU yn "disgwyl ac awgrymu" i bobl orchuddio eu hwynebau pan mewn torf neu fannau caeedig.

Er hynny, mae maer Llundain Sadiq Khan wedi dweud y bydd mygydau'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain ar 19 Gorffennaf.

Yng Nghymru bydd mygydau yn parhau'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a'r mwyafrif o sefyllfaoedd dan do - ond nid mewn bwytai, tafarndai ac ysgolion.

Bydd asesiadau risg yn y gweithle yn parhau i fod yn orfodol yn gyfreithiol i gyflogwyr, ond mae undeb yn dweud bod hynny'n peryglu gweithwyr.

Disgrifiad,

Ni fydd angen mygydau mewn tafarndai, ac mae Catherine Beckett o Dafarn Twnti ym Mhen LlÅ·n yn croesawu'r llacio yn gyffredinol

Ar raglen Good Morning Britain fore Iau dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "symlach ac yn fwy eglur i bawb" pe bai Llywodraeth y DU yn dilyn yr un drefn â Chymru a'r Alban er mwyn cael cysondeb.

"Rwy'n credu y bydd hi'n anodd i bobl yn Lloegr i wybod yn union beth yw'r gofynion," meddai.

"Mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrthym ni yn aml y dylen ni weithio i gael safbwynt tebyg yn y pedair gwlad wrth fynd i'r afael â coronafeirws, a dydw i ddim yn anghytuno â hynny.

"Ond ar y mater yma - gwisgo mygydau - Llywodraeth y DU sydd â threfn wahanol ar y funud, a pe bydden nhw yn barod i gael yr un rheolau â'r hyn fydd yn Yr Alban a Chymru fe fyddai hynny'n symlach ac yn fwy eglur i bawb."

'Nid cyngor ydy e, dyna'r gyfraith'

Yn gynharach, dywedodd Mr Drakeford wrth Â鶹ԼÅÄ Breakfast y bydd cwmnïau rheilffordd a bysiau yn sicrhau bod pobl yn gwisgo mygydau os yn teithio o Loegr i Gymru.

"Bydd y bobl sy'n rhedeg y system drafnidiaeth yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod rheolau gwahanol ar waith pan yn teithio yng Nghymru," meddai.

"Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dilyn y cyngor clir gan y prif weinidog yn Lloegr y dylen nhw barhau i wisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond yma yng Nghymru bydd y rheol yn glir - nid cyngor ydy e, dyna'r gyfraith."

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i "symud yn ofalus, gam wrth gam gan feddwl am rheiny sy'n fregus".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl fregus i barhau'n wyliadwrus hyd yn oed pan ddaw'r cyfyngiadau i ben

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fore Iau y bydd pobl fregus yn derbyn llythyr gan y llywodraeth wrth i gyfyngiadau lacio yng Nghymru yn eu cynghori i aros yn wyliadwrus.

"Mi fydd llythyr yn mynd mas i'r bobl fwyaf bregus - wrth gwrs, mi fydd yn rhaid i bobl fod yn ofalus," meddai ar Dros Frecwast.

Ond ychwanegodd nad oedd y cyngor hynny yn golygu bod angen aros adref.

"Dwi'n meddwl bod angen i bobl fregus i fod yn ofalus, ond wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddod at bwynt pryd ry'n ni'n ailagor ein cymunedau ni.

"Dyma yw'r pwynt pryd mae hynny'n digwydd," meddai.