Â鶹ԼÅÄ

Llacio bron bob rheol coronafeirws yng Nghymru erbyn 7 Awst

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
masg
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mygydau'n dal yn orfodol ar drafnidiaeth cyhoeddus a'r mwyafrif o sefyllfaoedd dan do ag eithrio lletygarwch

Fe fydd llacio pellach o gyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru o ddydd Sadwrn, ac yna bron yn llwyr o 7 Awst.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer y camau nesaf.

O ddydd Sadwrn fe fydd Cymru'n symud i 'Lefel Rhybudd 1' - fydd yn llacio'r rheolau ar gymysgu mewn cartrefi preifat ac ar gwrdd tu allan.

Bydd yn bosib i hyd at chwe pherson gymysgu mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.

Bydd llacio ar y rheolau o gwmpas digwyddiadau wedi eu trefnu hefyd, gyda hyd at 1,000 yn cael cwrdd dan do os ydyn nhw'n eistedd, neu 200 yn sefyll.

Beth all ddigwydd ar 7 Awst?

Os fydd amgylchiadau yn caniatáu, bydd llacio o ddifri' wedyn ar 7 Awst ac mae'r cynllun newydd yn gosod nod o godi mwyafrif y cyfyngiadau presennol.

Byddai dim rheolau ar faint o bobl allai gwrdd tu fewn na thu allan, nac ar bellter cymdeithasol.

Ond fe fyddai'n rhaid i sefydliadau a busnesau wneud asesiadau risg i ddiogelu pobl.

Fe fyddai mygydau yn parhau'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a'r mwyafrif o sefyllfaoedd dan do - ond nid mewn bwytai, tafarndai ac ysgolion.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y prif weinidog: "Rydym yn mynd i gyfnod newydd o'r pandemig.

"Mae achosion o'r feirws wedi codi'n gyflym ers i'r amrywiolyn Delta ymddangos chwe wythnos yn ôl, ond diolch i'r rhaglen frechu wych nid ydym yn gweld hynny'n cyfateb â nifer fawr o bobl yn mynd yn sâl iawn neu angen triniaeth ysbyty.

"Gallwn fod yn weddol hyderus bod y brechiadau wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiadau a salwch difrifol.

"Ond mae risg o hyd y gallai'r drydedd don yma achosi niwed gwirioneddol - naill ai'n uniongyrchol o'r feirws neu yn anuniongyrchol drwy orfod hunan-ynysu."

Beth arall sy'n newid?

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn gorfod hunan-ynysu os ydyn nhw'n dychwelyd i Gymru o wledydd ar y rhestr oren

Fe wnaeth Mr Drakeford gadarnhau na fydd pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn gorfod hunan-ynysu os ydyn nhw'n dychwelyd i Gymru o wledydd ar y rhestr oren, gan uno gyda'r sefyllfa yn Lloegr a'r Alban.

Fodd bynnag, roedd yn feirniadol o Lywodraeth y DU am gyflwyno'r newid, gan ddilyn y penderfyniad yn unig oherwydd y byddai peidio â gwneud hynny wedi bod yn "anghynaladwy".

Dywedodd hefyd bod y cabinet yn bwriadu cael gwared o'r gofyniad i bobl sydd wedi eu brechu'n llawn i hunan-ynysu, os ydyn nhw'n dod i gysylltiad agos â rhywun sy'n profi'n bositif am Covid-19.

Ond dywedodd y Prif Weinidog bod "gwaith i'w wneud o hyd" er mwyn i'r newidiadau hyn gael eu gweithredu fis nesaf.

Mae'n rhaid i'r system olrhain cysylltiadau gael ei addasu, meddai, gyda threfniadau arbennig ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal.

Ychwanegodd: "Bydd hunan-ynysu yn parhau i chwarae rôl bwysig yn y broses o dorri'r gadwyn drosglwyddo ar gyfer unrhyw un â symptomau o'r feirws, unrhyw un sy'n profi'n bositif, ac unrhyw un sydd heb gael dau ddos o'r brechlyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr, dywedodd Mr Drakeford y byddai rheolau ar bellter cymdeithasol yn un o sawl dull y gallai busnesau gadw pobl yn ddiogel, er bod y gyfraith ar hynny'n newid.

Dywedodd eto na fyddai cofnod brechu - neu basbort brechu - yn orfodol, ac mai penderfyniad i fusnesau ydy eu defnyddio.

Ychwanegodd na fyddai "unrhyw berson call" yn gallu dweud na fyddai pobl yn dal i orfod gwisgo mygydau ymhen chwen mis neu flwyddyn, ond ei fod "yn gobeithio ddim, wrth gwrs".

'Hir-ddisgwyliedig'

Wrth ymateb, croesawodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y cynllun "hir-ddisgwyliedig" gan y llywodraeth.

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn achos o "gwell hwyr na hwyrach" i gyhoeddi'r cynllun, ac er na fydd "amser perffaith i godi pob cyfyngiad heb risg", nawr yw'r amser i "ddechrau'r gwaith pwysig o ailadeiladu economi Cymru".

Gyda rhai cyfyngiadau'n parhau am gyfnod, galwodd eto ar y llywodraeth i ddefnyddio arian sydd heb ei ddyrannu i gefnogi busnesau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd: "Y peth pwysig yw nad yw Llywodraeth Cymru yn dilyn yr amserlen sydd wedi ei gosod a'i barnu'n wael gan Lywodraeth y DU wrth godi'r holl gyfyngiadau yn ystod cyfnod o achosion cynyddol."

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i lacio rhai cyfyngiadau ond nid eraill yn seiliedig ar ddata o sawl ffynhonnell gan gynnwys modelau gan wyddonwyr sy'n defnyddio cyfrifiaduron anferth i geisio dadansoddi beth fydd yn digwydd nesaf.

Roedd y modelau hynny yn darogan y drydedd don, ry'n ni'n gweld ar hyn o bryd, yn y cyfnod pan oedd cymdeithas dan glo yn ystod yr ail don.

Ond beth am y cyfnod nesaf?

Wel mae'r gwaith modelu diweddaraf yn awgrymu y bydd achosion yn parhau i gynyddu dros yr wythnosau nesaf gan gyrraedd y brig tua dechrau Awst ac arwain at ragor o bobl yn gorfod cael triniaeth mewn ysbyty ac yn anffodus, mwy na thebyg, rhagor o farwolaethau.

Ond mae yna hyder cynyddol erbyn hyn y bydd y niwed yn llawer llai na chynt o ganlyniad i lwyddiant y rhaglen frechu, a'r ffaith fod llawer iawn o achosion ar hyn o bryd yn digwydd ymhlith pobol iau sy'n llai tebygol o ddatblygu salwch difrifol.

Os hynny pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi dilyn patrwm Lloegr, a llacio'n gyflymach?

Wel mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dadlau fod y risg o niwed yn bodoli o hyd ac wrth gwrs ry'n ni'n gwybod fod y gwasanaeth iechyd dan straen, yn delio â rhestrau aros a bod unedau brys yn brysur iawn - yn rhannol oherwydd bod pobl bellach yn cael cymdeithasu.

Y peth diwethaf mae nifer o staff iechyd am weld ar hyn o bryd yw'r straen yn cynyddu ymhellach oherwydd twf salwch o ganlyniad i Covid.

Ond cofiwch mae modd dehongli unrhyw fath o ddata mewn sawl ffordd wahanol.

Dyna pam mai cyfrifoldeb gwleidyddion ac nid gwyddonwyr yw dewis y camau nesaf.