Â鶹ԼÅÄ

'Dim rhyddid' i deuluoedd sy'n galaru yn sgil Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwyn Tovey
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaliodd Gwyn Tovey yr haint tra'n gweithio mewn warws cyn y Nadolig

Mae cyn-ddarlithydd a gollodd ei wraig i Covid-19 yn rhybuddio bod cyfyngiadau'n cael eu codi'n rhy gyflym ledled y DU.

Mae Gwyn Tovey, sydd bellach yn gofalu am ei fam 94 oed a ddaliodd y feirws hefyd, yn ymdopi ag effeithiau Covid hir ei hun.

Dywed na fydd "rhyddid" i unrhyw deuluoedd sy'n gorfod dioddef trawma tebyg.

Fe symudodd Gwyn a'i wraig Rita i'w cartref ym mhentref Penygroes yn Sir Gaerfyrddin ddegawd yn ôl.

Y llynedd, ymgymerodd Gwyn - sydd wedi ymddeol fel darlithydd - â gwaith warws rhan-amser i gynilo i brynu sgwter arbennig i Rita, a oedd yn 74 oed, ar gyfer y Nadolig.

Ond fe ddaliodd Covid.

"Yn syml, fe wnes i ffonio'r gwaith i ddweud 'Rydw i wedi cael diagnosis, bydd yn rhaid i mi hunan-ynysu am 10 diwrnod' a'r graddau roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n mynd oedd y byddwn i'n colli fy swydd ran-amser," meddai Gwyn.

Ond fe gollodd gymaint mwy.

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, cwympodd Rita gartref gydag effeithiau Covid ac, ar ôl tair wythnos, bu farw yn yr ysbyty ar Ddydd Calan.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Rita Tovey wrth ddrws ei sied - llun sy'n cael ei drysori gan Gwyn

Cafodd mam Gwyn, Betty, y feirws hefyd. Ar un adeg roedd y tri yn cael triniaeth yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Yn ddiweddarach cafodd Betty ei throsglwyddo i ysbyty dros dro yn y dref i adfer cleifion Covid.

Cafodd ei rhyddhau ym mis Chwefror i ddychwelyd i fyw gyda'i mab.

Mae'r caffi lleol ym Mhenygroes, Y Cwtch, bellach yn danfon rhai o brydau bwyd Betty, tra bod Gwyn yn paratoi'r gweddill ac yn gofalu amdani yn gyffredinol, er bod ganddo ei broblemau ei hun gyda chymhlethdodau o thrombosis.

Dywed ei fod yn cael trafferth sicrhau gofal preswyl mwy priodol i'w fam.

Mae Betty wedi gwella o'r feirws er gwaethaf pryderon meddygol eraill.

"Diolch i dduw, dwi'n teimlo'n well," meddai. "Roedd yn ddrwg gen i golli Rita. Hi oedd fy ffrind gorau."

O ran ei mab, dywedodd: "Mae'n dda fel aur. Mae'n fachgen da, yn fab da." Mae hi'n chwerthin: "Dyna'r ffordd wnes i ei fagu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Betty, mam Gwyn, mai ei diweddar ferch-yng-nghyfraith oedd ei ffrind gorau

Gyda chyfyngiadau'n cael eu codi o amgylch y DU, mae gan Gwyn bryderon penodol.

"Dwi wir yn meddwl ei bod hi'n rhy fuan," meddai. "Dylai pobl gymryd gofal mawr wrth siarad am gael gwared â masgiau wyneb yn yr ysgol, ydyn ni wir yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud?

"Mae'n un her fawr, a oes wir angen i ni wthio mor galed i efallai hepgor llawer o'r buddion sydd eisoes wedi eu hennill?

"Ble mae'r rhyddid i deuluoedd sy'n mynd ymlaen i fynd trwy brofiadau tebyg i fi fy hun, fy nheulu?"

Tra ei fod yn gwneud ei orau i lunio bywyd newydd, mae Gwyn yn cofio am ei ddiweddar wraig, ac yn enwedig y cof sydd ganddo ohoni yn ei sied yn yr ardd.

"Mae hi'n sefyll yno wrth y drws, brenhines ei pharth, yn edrych yn wirioneddol hapus."

Pynciau cysylltiedig