Â鶹ԼÅÄ

'Anodd peidio' rhoi dyddiad ar gyfer diwedd y cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Deirdre Hine
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Y Fonesig Deirdre Hine yn Brif Swyddog Meddygol Cymru yn y 1900au

Mae'n "anodd gweld" sut y gallai Llywodraeth Cymru osgoi gosod dyddiad ar gyfer dod â chyfyngiadau Covid i ben, yn ôl cyn-Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae disgwyl i weinidogion amlinellu'r camau nesaf ar gyfer llacio'r rheolau yng Nghymru yr wythnos nesaf.

Mae Llywodraethau'r DU a'r Alban eisoes wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer codi'r mwyafrif helaeth o gyfyngiadau yn Lloegr a'r Alban.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "dilyn trywydd pwyllog" o ran dod â rheolau i ben.

'Pwysau i bennu dyddiad'

Mae'r Fonesig Deirdre Hine yn arbenigwr iechyd cyhoeddus blaenllaw ar ôl bod yn brif swyddog meddygol Cymru ar ddechrau'r 1990au, a chyn hynny sefydlodd y rhaglen sgrinio canser y fron Bron Brawf Cymru.

Cadeiriodd y Fonesig Deirdre ymchwiliad swyddogol y DU i bandemig y Ffliw Moch 2009 hefyd.

Mewn cyfweliad â rhaglen Â鶹ԼÅÄ Politics Wales, dywedodd fod y cynllun i ddod â chyfyngiadau i ben yn Lloegr ar 19 Gorffennaf yn "gambl mawr" i Lywodraeth y DU ac yn "gyfyng-gyngor mawr" i Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar na fydd ei phenderfyniadau'n cael eu "gyrru gan ddyddiadau artiffisial".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraddau brechu uwch yng Nghymru'n cryfhau dadl y rheiny sydd eisiau dyddiad ar lacio cyfyngiadau, yn ôl Y Fonesig Deirdre Hine

"Byddant wrth gwrs yn dod o dan bwysau i bennu dyddiad ac mae'n anodd mewn rhai ffyrdd gweld sut y gallant ddianc, os mynnwch, heb bennu dyddiad," meddai'r Fonesig Deirdre.

"Mae ein cyfraddau brechu yn uwch, mae cyfradd yr haint yn ymledu'n is na rhannau o Loegr, felly gellir dadlau eu bod mewn sefyllfa well i wneud y penderfyniad hwnnw.

"A bydd hynny ynddo'i hun yn fath o bwysau arnyn nhw."

Fodd bynnag, ychwanegodd y Fonesig Deirdre fod ganddi hyder na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnu ar ei hymateb "cyson ofalus" drwy gydol y pandemig.

'Dim angen adolygiad Cymreig'

Mae cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn cynnwys dod â'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn rhai lleoliadau i ben.

Dywedodd y Fonesig Deirdre fod hynny'n "risg ddiangen" ac y dylai'r defnydd o orchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau aros yn orfodol.

"Dwi ddim yn meddwl, gyda'r ewyllys orau yn y byd, y gallwch chi ddibynnu ar bobl i gymryd eu barn eu hunain ar hyn," ychwanegodd.

Rhybuddiodd y Fonesig Deirdre hefyd y byddai'n cymryd "llawer o amser" i ddychwelyd i normalrwydd ac y bydd "ymhen amser lefel dderbyniol o farwolaethau" gan Covid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

A fydd Cymru'n cyhoeddi dyddiad ar gyfer codi cyfyngiadau fel yn Lloegr a'r Alban?

Ac yn dilyn galwadau o'r newydd gan y gwrthbleidiau am ymchwiliad i edrych yn benodol ar yr ymateb yng Nghymru i'r pandemig, dywedodd y Fonesig Deirdre y byddai adolygiad o'r fath "yn gamgymeriad" gan na fyddai'n bosibl "datgysylltu ymateb Cymru o ymateb gweddill y DU".

Ond ychwanegodd fod angen adolygiad cynnar o'r pandemig "i roi rhai awgrymiadau ar sut y dylem fod yn edrych ymlaen".

"Bydd pandemig arall o ryw fath... mae angen i ni fod yn barod am hynny."

Cadarnhad i ddod ddydd Mercher

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i ddilyn trywydd pwyllog o ran llacio cyfyngiadau yng Nghymru er mwyn cadw pobl mor ddiogel â phosib.

"O ganlyniad hynny ac ymdrechion pawb yng Nghymru, ni sydd â chyfraddau coronafeirws isaf y DU.

"Mae gyda ni hefyd un o'r cyfraddau brechu uchaf drwy'r byd - gyda thros 70% o oedolion yng Nghymru wedi'u brechu'n llawn erbyn hyn.

"Bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau canlyniad adolygiad diweddaraf y cyfyngiadau ddydd Mercher nesaf."

Gallwch wylio Politics Wales ar Â鶹ԼÅÄ1 Wales am 10:00 ddydd Sul 11 Gorffennaf, neu ar wasanaeth Â鶹ԼÅÄ iPlayer.