Cyhoeddi rhestr testunau Eisteddfod AmGen

Disgrifiad o'r llun, Mae gohirio'r eisteddfod eto yn golygu y bydd bwlch o dair blynedd rhwng eisteddfodau Llanrwst a Thregaron

Ddydd Llun mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi'r Rhestr Testunau ar gyfer Eisteddfod AmGen, a gynhelir ddechrau mis Awst eleni.

Fis Ionawr fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod Eisteddfod Ceredigion wedi cael ei gohirio am yr eildro yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond gyda phobl ddim wedi gallu cystadlu mewn Prifwyl am gyfnod hir mae'r trefnwyr yn awyddus iawn i greu rhestr testunau ychydig yn wahanol i'r arfer er mwyn i bobl gael cyfle i gystadlu eto.

Ym mis Chwefror dywedodd y llenorion Karen Owen a'r Athro Gerwyn Wiliams bod gohirio'r Brifwyl am ddwy flynedd yn effeithio ar lenyddiaeth yng Nghymru hefyd.

Mae'r rhestr testunau'n cynnwys dros 80 o gystadlaethau amrywiol - yn gystadlaethau llwyfan ac yn gystadlaethau cyfansoddi.

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, "Ry'n ni'n falch iawn o gyhoeddi ein rhestr testunau ar gyfer Eisteddfod AmGen heddiw.

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i bawb ac mae cymaint ohonom ni wedi gweld eisiau'r cyfle i gystadlu, fel unigolion ac fel grwpiau a phartïon, felly rwy'n gobeithio y bydd y rhestr yma'n llwyddo i ddenu cynulleidfa eang iawn.

Disgrifiad o'r llun, Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, yn gobeithio y bydd y testunau yn apelio at nifer

"Ry'n ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith i dynnu'r rhestr ynghyd. Mae wedi bod yn dipyn o gamp dod â phopeth at ei gilydd mewn cyfnod cymharol fyr a phawb yn parhau i weithio o gartref.

Ac rwy'n gobeithio y bydd y rhestr yn apelio - mae 'na ambell gystadleuaeth wahanol a newydd yn y rhestr eleni, ynghyd â thestunau mwy cyfarwydd sy'n sicr o ddenu diddordeb.

"Fe fyddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion a gwybodaeth am wythnos yr Eisteddfod ei hun dros y misoedd nesaf, ac yn y cyfamser, mae'r neges yn glir - ewch ati i gystadlu a mwynhewch!"

Cystadlaethau newydd

Am y tro cyntaf, mae dwy gystadleuaeth gerddoriaeth electroneg wedi'u cynnwys yn y rhestr, sef cystadleuaeth ar gyfer perfformio gwaith electroneg a chystadleuaeth cyfansoddi darn o waith.

Mae yna gystadleuaeth hefyd ar y cyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ysgrifennu pennod gyntaf nofel ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd ac mae'r gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn digwydd eto eleni.

Mae modd cael golwg ar yr holl gystadlaethau .

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Dywed llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol bod yna gynlluniau hefyd ar gyfer cynnal "arddangosfa rithwir arbennig iawn, fydd yn datblygu'r elfennau a grëwyd ar gyfer prosiect y llynedd.

"Gan weithio gyda chwmni 4Pi, bydd dwy arddangosfa'n cael eu creu, un yn arddangos 25 o weithiau gan artistiaid o dan 25 oed a'r llall yn arddangos 25 o weithiau gan artistiaid dros 25 oed."

Bydd hi'n ofynnol i bawb gofrestru ar-lein gyda fideos yn cymryd lle y rhagbrofion arferol.

Dyddiad cau'r cystadlaethau llwyfan yw 17:00, dydd Llun 17 Mai a 17:00 ar ddydd Llun 1 Mehefin yw'r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi.