鶹Լ

5 uchafbwynt cerddorol o’r Eisteddfod AmGen

  • Cyhoeddwyd
5 uchafbwynt

Gyda chymaint yn digwydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGen, mae'n bosib y byddwch wedi methu ambell i berfformiad go arbennig.

Ond wrth gwrs mae dal modd gwylio'r sesiynau ar-lein, ac mae digon i'w ddarganfod. Dyma 5 uchafbwynt cerddorol i'ch rhoi ar ben y ffordd...

Sioe Gerdd: Un

Draw ar lwyfan Encore yr Eisteddfod, unigrwydd yng nghyfnod Covid-19 oedd thema'r sioe gerdd yma gan fyfyrwyr BA Perfformio, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cafodd y caneuon eu cyfansoddi gan Gruffudd Owen ac Eilir Owen Griffiths, a'u perfformio o dan amgylchiadau heriol gwanwyn 2020.

Disgrifiad,

Un - Myfyrwyr BA Perfformio, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae modd gweld holl sesiynau llwyfan Encore fan hyn.

Ar Radio Cymru, roedd cyngerdd Clasuron Sioeau Cerdd yn rhoi tro annisgwyl ar rai o'r caneuon sydd wedi eu clywed ar lwyfan Eisteddfodau'r gorffennol.

Arwyddo'r anthem yn Sioe yr Eisteddfod Goll

Fe ddaeth Sioe yr Eisteddfod Goll ar S4C â rhai o gewri llwyfannau Cymru at ei gilydd ar ddiwedd yr wythnos.

I gloi'r cyngerdd fe ganodd Syr Bryn Terfel Hen Wlad Fy Nhadau, ac roedd cyfle i weld fersiwn newydd o'r anthem mewn iaith arwyddo am y tro cyntaf. Fe allwch ddysgu mwy am y prosiect fan hyn.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r 鶹Լ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan S4C

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r 鶹Լ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan S4C

Cerddorfa yn trawsnewid caneuon gan Ani Glass a Breichiau Hir

Disgrifiad,

Mirores gan Ani Glass a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 鶹Լ

Ar nos Sadwrn 1 Awst fe ddatgelodd Huw Stephens a Lisa Gwilym mai Ani Glass oedd enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn. Fel rhan o'r seremoni fe chwaraewyd fersiwn arbennig o'r gan Mirores wedi'i gynhyrchu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 鶹Լ.

Ac ar gais Tudur Owen, fe wnaeth y gerddorfa hefyd drawsnewid un o ganeuon y band roc trwm Breichiau Hir. Gwrandewch ar fersiwn hudolus o Yn Dawel Bach gyda Ritzy o Joy Formidable fan hyn.

Maes B o Bell

Roedd yna ddau gyngerdd Maes B o Bell eleni. Roedd y cyntaf ar S4C gydag Alffa, Lewys, Chroma a mwy yn ogystal â pherfformiadau o'r archif. Yna ar nos Wener 7 Awst roedd cyngerdd wedi'i recordio yn warws CULTVR, Caerdydd gyda Yr Eira, Ani Glass a Gwilym yn perfformio.

Fe allwch wylio'r ddau gyngerdd eto ar iPlayer nawr.

Gwledd o gerddoriaeth werin

Fel arfer ym mis Awst fe fyddai ein cerddorion gwerin adnabyddus yn gwibio ar draws Cymru a thu hwnt yn perfformio mewn gwyliau. Er fod pethau yn go wahanol eleni, roedd digon o gyfle i werthfawrogi perfformiadau hudolus yn ystod yr Eisteddfod AmGen.

Ar Radio Cymru, roedd Gwilym Bowen Rhys a Lleuwen ymysg yr artistiaid oedd yn perfformio o'u cartrefi, rhywbeth sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn iddynt yn ystod y cyfnod diweddar.

Ac fe gafwyd cyngerdd o'r Tŷ Gwerin rithiol hefyd gyda Tant, VRï a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio. Roedd y cyngerdd wedi ei recordio yng nghanolfan Pontio, Bangor.

Cofiwch fod mwy o uchafbwyntiau o bob math i'w darganfod ar wefan yr Eisteddfod, S4C Clic a Cymru Fyw.

Fe welwn ni chi yn Nhregaron!