Â鶹ԼÅÄ

Colli 'bara menyn' Eisteddfod Tregaron yn 'glatshen enfawr'

  • Cyhoeddwyd
Sioned Elin
Disgrifiad o’r llun,

Colli'r cyswllt wyneb yn wyneb mae Sioned Elin o gwmni Cadwyn

I gannoedd o stondinwyr, masnachu ar faes y Brifwyl yw uchafbwynt y flwyddyn. Ac i rai, dyma'u prif incwm.

Mae colli'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn ergyd drom yn ariannol a chymdeithasol.

Mae'n gyfnod heriol, yn ôl un o gyfarwyddwyr cwmni Cadwyn, Sioned Elin.

"Ry'n ni'n cyfanwerthu i siopau, yn gwerthu ar-lein a hefyd ry'n ni'n gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd mewn steddfodau ac ati a mynd i ganolfannau siopa.

"Achos sdim siop fel y cyfryw 'da ni, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd yw'n llwyfan ni, sy'n ein galluogi ni i gysylltu'n uniongyrchol 'da'n cwsmeriaid.

"'Na beth 'wi'n colli yr wythnos hon - y cyswllt personol gyda'n cwsmeriaid ni."

Mae'r Eisteddfod hefyd yn fodd i gwmnïau arddangos nwyddau am y tro cyntaf.

"Mae'n ffordd i ni dreialu nwyddau newydd a gweld yr ymateb iddyn nhw, a hefyd mae'n ffordd o waredu hen stoc. Ni'n cael sêls reit dda hefyd yn y Steddfod, felly mae'n golled fawr i ni."

Disgrifiad,

Mae rhybudd y bydd colli'r Eisteddfod yn ergyd enfawr i'r diwydiant llyfrau Cymraeg

Mae cwmni Shwl Di Mwl yn cynhyrchu crysau-t yn bennaf, a'r Eisteddfod yw eu prif ffenestr.

"Dyna'n bara menyn ni," meddai Owain Young.

"Mae'n glatshen enfawr. Mae'n rhaid i ni gael yr Eisteddfod achos yr hysbyseb, a ni'n g'neud arian yna.

"Mae lot o waith yn mynd i 'neud Steddfod. Mae'n cymryd 2-3 mis i ni gael stwff yn barod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod yn ergyd drom i stondinwyr medd Owain Young

Cyn i'r Eisteddfod gael ei gohirio, eisoes roedd 175 o fusnesau a sefydliadau wedi archebu lle ar faes Tregaron.

A bydd yr archebion hynny yn cael eu trosglwyddo ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ond unwaith eto, mae cyfleoedd newydd wedi codi er gwaethaf heriau Covid-19.

Mae marchnad ddigidol wedi ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a chyfle i hyd at 80 o grefftwyr a busnesau werthu eu cynnyrch ar-lein yr wythnos hon.

Mae hynny i'w groesawu yn ôl Anwen Roberts, perchennog cwmni Draenog.

Disgrifiad o’r llun,

Yn sgil y farchnad ddigidol mae Anwen Roberts wedi darganfod cwsmeriaid newydd

"Mae'r farchnad ddigidol wedi bod yn wych. Dwi 'di cael ymateb da gan gwsmeriaid, a chwsmeriaid newydd sydd wedi dod o hyd i ni," meddai.

"Mae'n rhywbeth gwych i'w gynnig pan nad oes digwyddiadau yn cael eu cynnal ond dwi yn edrych ymlaen at gael digwyddiadau go iawn y flwyddyn nesaf."

Mae Owain Young hefyd yn gwerthfawrogi'r farchnad ddigidol.

"Mae'r Steddfod 'di bod yn dda 'da ni - mae'n chwa o awyr iach a dweud y gwir, gweld pobl yn trio gwneud r'wbeth i helpu.

"Mae'n ffordd newydd o 'neud busnes. Gyda'n gilydd yn gryfach, fel ma' nhw'n gweud!"

Croesi bysedd ar gyfer y flwyddyn nesaf wnaiff stondinwyr, ond mae'r ansicrwydd oherwydd bygythiad parhaol Covid-19 yn peri gofid, yn ôl Sioned Elin.

"Mae'n effeithio ar hyder bobl i fynd mas i siopa a dyw'r ansicrwydd yma ddim yn help i fusnes nac i fasnach."