Â鶹ԼÅÄ

Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Yr Alban 24-25 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Fe gafodd y Crysau Cochion ail wynt yn yr ail hannerFfynhonnell y llun, @SixNationsRugby
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y Crysau Cochion ail wynt yn yr ail hanner

Mae'r Crysau Cochion wedi trechu'r Albanwyr oddi cartref yn Murrayfield a hynny o drwch blewyn.

Cymru a sgoriodd gyntaf a hynny wedi wedi cic gosb Leigh Halfpenny ond o fewn pedair munud roedd y sgôr yn gyfartal wedi cic gosb syml gan Finn Russell o flaen y pyst.

Dau gais yna i'r Albanwyr yn yr hanner cyntaf (i Darcy Graham a Stuart Hogg) ac wedi trosi llwyddiannus gan Russell ddwywaith roedd y sgôr yn 17-3 wedi 25 munud a'r Cymry yn wynebu cryn bwysau.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Gobeithion Cymru o sicrhau y Gamp Lawn dal yn fyw wedi buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban

Ond cyn hanner amser fe ddaeth sgôr hollbwysig i' Gymru wrth i'r asgellwr Louis Rees-Zammit groesi a'r sgôr ar hanner amser oedd 17-8.

Ail wynt i Gymru

Yn yr ail hanner sgarmes symudol wych gan y Crysau Cochion a'r olwyr yn sicrhau bod Liam Williams yn croesi ac wedi trosiad llwyddiannus Callum Sheedy roedd Cymru o fewn dau bwynt (17-15).

Roedd yna ergyd i'r Albanwyr wedi 54 munud wrth i'r prop Zander Fagerson gael ei yrru o'r cae wedi i'w ysgwydd daro yn erbyn pen Wyn Jones yn y ryc ond yna o fewn munudau cais i Wyn Jones ac roedd Cymru ar y blaen (17-20).

Mantais yna (24-20) i'r Albanwyr wedi cais gan Stuart Hogg a throsiad gan Finn Russell o'r ystlys ond yna pwynt bonws i'r Crysau Cochion wedi cais arbennig gan Louis Rees-Zammit (24-25).

Digon o densiwn a thyndra wedyn tan ddiwedd y gêm wrth i Gymru geisio gadw'r mantais a'r sgôr terfynol oedd Yr Alban 24 a Chymru 25.

Mae gobeithion Cymru o sicrhau y Gamp Lawn dal yn fyw.