Â鶹ԼÅÄ

Dim George North ond Liam Williams yn ôl i herio'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Liam Williams wedi'i wahardd ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf

Dydy George North ddim yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Ond mae newyddion da i Wayne Pivac, gyda Liam Williams yn dychwelyd i'r 15 fydd yn dechrau yng Nghaeredin yn dilyn gwaharddiad am gael cerdyn coch i'r Scarlets.

Yn absenoldeb North a Johnny Williams, sydd hefyd ag anaf, Nick Tompkins ac Owen Watkin sy'n dechrau fel canolwyr, ac mae Liam Williams yn cymryd lle Hallam Amos ar yr asgell.

Mae Aaron Wainwright yn cymryd lle Dan Lydiate fel blaenasgellwr a Gareth Davies yn dechrau fel mewnwr yn hytrach na Tomos Williams.

Mae'n bosib y bydd y canolwr Willis Halaholo, sy'n gymwys i gynrychioli Cymru ar ôl byw yma am dros dair blynedd, yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf oddi ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd George North anaf i'w lygad yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon

Daeth cadarnhad ddydd Mercher bod tri o chwaraewyr y Gleision - Halaholo, y mewnwr Lloyd Williams a'r blaenasgellwr James Botham - wedi cael eu galw i'r garfan.

Daw hynny wedi iddi ddod i'r amlwg na fyddai Lydiate, Johnny Williams, Amos na Tomos Williams ar gael i herio'r Alban oherwydd anafiadau a gafwyd yn y fuddugoliaeth dros y Gwyddelod ddydd Sul.

Mae Lydiate wedi cael ei ryddhau o'r garfan yn llwyr ac mae pryder y gall fethu gweddill y tymor.

Daeth i'r amlwg ddydd Iau bod blaenasgellwr arall, Josh Navidi, hefyd wedi cael anaf, ac felly nid yw'n rhan o'r tîm fydd yn herio'r Alban.

Dydy'r asgellwr Josh Adams ddim ar gael chwaith ar ôl cael ei wahardd o'r garfan am ddwy gêm am dorri rheoau Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y bydd y canolwr Willis Halaholo yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf oddi ar y fainc

Tîm Cymru i herio'r Alban

Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, Owen Watkin, Nick Tompkins, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhodri Jones, Leon Brown, Will Rowlands, James Botham, Kieran Hardy, Callum Sheedy, Willis Halaholo.