Â鶹ԼÅÄ

Cymru'n gwahardd Josh Adams am dorri rheolau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Adams wedi sgorio 14 cais mewn 29 gêm ryngwladol ers iddo ennill ei gap cyntaf yn 2018

Mae Josh Adams wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru ar gyfer dwy gêm gyntaf y Chwe Gwlad wedi iddo dorri rheolau Covid-19.

Fe wnaeth asgellwr y Gleision fynychu digwyddiad gyda'i deulu ddydd Sul tra bo'r chwaraewyr yn cael ychydig ddyddiau i ffwrdd o ymarfer.

Daeth hynny i'r amlwg ddydd Mawrth ar ôl i'r chwaraewyr ailymgynnull cyn y bencampwriaeth.

Dywedodd Adams ei fod yn "ymddiheuro'n ddiamod" am dorri'r rheolau.

Mae Adams wedi sgorio 14 cais mewn 29 gêm ryngwladol ers iddo ennill ei gap cyntaf yn 2018.

Roedd disgwyl iddo fod yn chwaraewr amlwg i Gymru yn ystod y bencampwriaeth eleni, ond bellach ni fydd ar gael ar gyfer y ddwy gêm gyntaf.

Bydd Cymru'n croesawu Iwerddon i Gaerdydd ddydd Sul cyn teithio i herio'r Alban ar 13 Chwefror.

'Cyfrifoldeb i arwain trwy esiampl'

Mae'r garfan yn cael eu profi'n gyson am Covid-19, ac roedd y profion diweddaraf oll yn negyddol.

Dywedodd Adams ei fod wedi gwneud "penderfyniad anghywir" trwy fynychu "digwyddiad bychan er mwyn dathlu carreg filltir i fy nheulu".

"Roeddwn i'n anghywir i wneud hyn," meddai.

"Rwy'n ymwybodol bod angen i bawb ddilyn y rheolau a, gan 'mod i yn llygad y cyhoedd, mae gen i gyfrifoldeb i arwain trwy esiampl a dydw i ddim wedi gwneud hynny ar yr achlysur hwn.

"Rydw i eisiau ymddiheuro i fy nghyd-chwaraewyr a'n cefnogwyr am fy nghamgymeriad."