Â鶹ԼÅÄ

Chwe Gwlad: Cymru heb bedwar chwaraewr cyn herio'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Dan LydiateFfynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei gêm gyntaf i Gymru mewn dwy flynedd, cafodd Dan Lydiate anaf i'w ben-glin yn yr hanner cyntaf

Fe fydd tîm rygbi Cymru heb bedwar o chwaraewyr ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ar gyfer y gêm nesaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anafiadau.

Daeth cadarnhad bod y blaenasgellwr Dan Lydiate wedi cael anaf difrifol i'w ben-glin pan aeth o'r cae yn gynnar yn yr hanner cyntaf ddydd Sul.

Mae profion ar yr anaf yn parhau ond mae pryder y gall fethu gweddill y gystadleuaeth a'r tymor.

Ni fydd y mewnwr Tomos Williams ar gael ar gyfer y daith i'r Alban chwaith yn dilyn anaf i'w goes.

Y ddau chwaraewr arall ydy'r canolwr Johnny Williams a'r asgellwr Hallam Amos - yn dilyn anafiadau pen i'r ddau.

Fe wnaeth Cymru lwyddo i sicrhau buddugoliaeth dros 14 dyn Iwerddon o 21-16 brynhawn Sul.

Ond mae'r hyfforddwr Wayne Pivac wedi cyfaddef bod sawl anaf o fewn y garfan wedi tynnu'r sglein oddi ar y fuddugoliaeth.

Mae canolwyr George North a Nick Tompkins hefyd wedi cael man anafiadau.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru y byddai unrhyw ychwanegiadau i'r garfan yn cael eu cyhoeddi yn y man.