Â鶹ԼÅÄ

Rygbi: Lydiate yn ôl yng ngharfan Chwe Gwlad Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dan LydiateFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae blaenasgellwr y Gweilch, Dan Lydiate, wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021.

Nid yw Lydiate, 33, wedi chwarae i'w wlad ers Tachwedd 2018, pan enillodd gap rhif 64 mewn gêm yn erbyn Awstralia.

Ond mae Lydiate wedi serennu i'w glwb yn ddiweddar, ac roedd nifer wedi darogan y byddai yn ôl.

Mae hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi enwi carfan o 36, ond nid yw mewnwr y Gweilch, Rhys Webb yn eu plith.

Mae Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn erbyn Iwerddon yn Nghaerdydd ar 7 Chwefror.

Gyda thri aelod o reng flaen Cymru - Nicky Smith, Rob Evans a Samson Lee - wedi'u hanafu, mae prop pen rhydd y Gweilch, Rhodri Jones, hefyd yn dychwelyd i'r garfan am y tro cyntaf ers 2018.

Mae Ken Owens yn ei ôl yn safle'r bachwr, gydag Elliott Dee ar y fainc, ac mae Adam Beard a Jake Ball wedi eu henwi yn yr ail-reng, gydag amheuaeth am ffitrwydd capten Cymru, Alun Wyn Jones.

Daw Lydiate i mewn i'r garfan yn lle James Botham a Shane Lewis-Hughes, a enillodd eu capiau cyntaf yn yr hydref.

Blaenasgellwr y Scarlets, Josh Macleod, yw'r unig un allai ennill ei gap cyntaf.

Carfan Cymru

Blaenwyr: Rhys Carre (Gleision Caerdydd), Wyn Jones (Scarlets), Rhodri Jones (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau) Ryan Elias (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Leon Brown (Dreigiau), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd), Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Will Rowlands (Wasps), Cory Hill (Gleision Caerdydd), Dan Lydiate (Gweilch), Josh Navidi (Gleision Caerdydd), Aaron Wainwright (Dreigiau), Taulupe Faletau (Caerfaddon), Josh MacLeod (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch).

Olwyr: Gareth Davies (Scarlets), Tomos Williams (Gleision Caerdydd), Kieran Hardy (Scarlets), Dan Biggar (Northampton Saints), Callum Sheedy (Bristol Bears), Jarrod Evans (Gleision Caerdydd), Johnny Williams (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Nick Tompkins (Dreigiau), Owen Watkin (Gweilch), George North (Gweilch), Josh Adams (Gleision Caerdydd), Hallam Amos (Gleision Caerdydd), Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Leigh Halfpenny (Scarlets), Liam Williams (Scarlets).