Â鶹ԼÅÄ

Cyfres yr Hydref: Cymru 9-6 Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Cymru v AwstraliaFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Ennill oedd hanes Cymru yn eu hail gêm yng Nghyfres yr Hydref yn Stadiwm y Principality, a hynny am y tro cyntaf mewn degawd yn erbyn Awstralia.

Roedd yr hanner cyntaf yn llawn ciciau cosb, yn anffodus i Gymru fe fethodd Leigh Halfpenny ddau gyfle i fynd ar y blaen.

Fuodd bron i Awstralia fynd ar y blaen o fewn y deng munud agoriadol. Roedd angen tacl wych gan Gareth Anscombe i rwystro Samu Kerevi oedd ar ei ffordd i sgorio cais.

Daeth cyfle cyntaf Cymru at y pyst wedi 13 o funudau. Methodd Halfpenny gyda'i ergyd.

Halfpenny yn methu

Roedd Cymru'n wan yn y lein, er gwaethaf presenoldeb Adam Beard sy'n chwe throedfedd wyth modfedd.

Daeth tri phwynt cyntaf Cymru ar ôl i Halfpenny y tro hwn gicio'n gywir wedi trosedd gan Awstralia ar ôl 21 o funudau.

Wedi 33 o funudau roedd Awstralia yn gyfartal, Bernard Foley gyda chic ar ôl i un o chwaraewyr Cymru gael ei gosbi am gamsefyll.

Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r sgôr yn 3-3, gyda Halfpenny yn methu cic rwydd arall o flaen y pyst eiliadau cyn y chwiban.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Justin Tipuric oedd seren y gêm i Gymru

Fe wnaeth Cymru wneud dau eilydd ar gyfer yr ail hanner.

Daeth Liam Williams ymlaen yn lle George North ar yr asgell a Dillon Lewis aeth i'r rheng flaen yn lle Tomas Francis.

Fe ddechreuodd yr ail hanner yn llawer mwy agored, gyda'r ddau dîm yn troi'r bêl drosodd.

Leigh Halfpenny ychwanegodd at bwyntiau Cymru wedi 68 munud, y tro hwn yn cicio'n llwyddiannus rhwng y pyst i wneud y sgôr yn 6-3.

Penderfyniad dadleuol?

Gyda saith munud yn weddill daeth penderfyniad dadleuol. Penderfynodd y dyfarnwr nad oedd Halfpenny wedi ei daclo'n hwyr, er i'r ail chwarae awgrymu fel arall.

Ciciodd Awstralia gic gosb yn gywir i unioni'r sgôr gyda chwaraewyr Cymru yn parhau i ddadlau yn erbyn penderfyniad y dyfarnwr.

Roedd Halfpenny wedi'i orfodi oddi ar y cae er mwyn cael asesiad i'w ben, a Dan Biggar ddaeth ymlaen yn ei le.

Gyda thri munud yn weddill, fe gamodd Biggar i fyny ac ychwanegu tri phwynt arall i Gymru gyda chic gosb o bellter.

Llwyddodd Cymru i oroesi pwysau ymosodol hwyr gan Awstralia i sicrhau buddugoliaeth o 9-6.