Â鶹ԼÅÄ

Jake Ball i adael Cymru a'r Scarlets ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Jake BallFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Bydd Cymru a'r Scarlets yn colli'r clo Jake Ball ar ddiwedd y tymor wedi iddo benderfynu ei fod am symud i Awstralia i fod yn agosach at ei deulu.

Mae ei wraig eisoes yno a bellach wedi rhoi genedigaeth i'w pedwerydd plentyn.

Ers 2014 mae Ball, 29, wedi ennill 49 o gapiau dros Gymru ac yn un o'r dewisiadau cyntaf yn yr ail reng.

Ond dydy hynny ddim yn ddigon i gyrraedd y trothwy o 60 o gapiau sydd ei angen arno i barhau i gael ei ddewis dros Gymru tra'n chwarae i glwb tramor.

Cafodd Ball ei eni yn Ascot yn Lloegr i dad o Gymru, cyn i'r teulu symud yn ddiweddarach i Awstralia.

Bu'n gricedwr a chwaraewr rygbi disglair pan yn ifanc, cyn symud i Gymru i ymuno â'r Scarlets yn 2012.

Cafodd ei fab newydd Max ei eni ym mis Tachwedd, gan olygu nad yw Ball wedi ei gyfarfod eto o ganlyniad i gyfyngiadau teithio Covid-19.