Â鶹ԼÅÄ

Drakeford yn galw ar Johnson i atal ymwelwyr o Loegr

  • Cyhoeddwyd
BoltonFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfyngiadau llym mewn ardaloedd fel Bolton yn Lloegr ar hyn o bryd

Mae Mark Drakeford wedi galw ar Boris Johnson i wahardd pobl sydd dan gyfyngiadau clo yn Lloegr i deithio i Gymru ar wyliau.

Nid oes modd i bobl sydd mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol yng Nghymru adael yr ardaloedd hyn "heb esgus rhesymol".

Nid yw mynd ar wyliau yn cael ei ystyried fel un o'r rhesymau yma, ond yn Lloegr nid yw'r fath gyfyngiad yn bodoli.

Mae modd i bobl yn Lloegr mewn ardaloedd sydd yn destun cyfyngiadau lleol fel Bolton a ChaerlÅ·r deithio ar wyliau gyda phobl eraill y maen nhw'n byw gyda nhw.

Wrth ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn gofyn pam fod pobl yn cael teithio o ardaloedd gyda lefelau uchel o Covid-19 yn Lloegr i Gymru, dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn credu ei fod yn gywir i weithredu "rheolau ffiniau".

Ond ychwanegodd ei fod wedi ysgrifennu at Boris Johnson ddydd Llun yn galw arno i weithredu cyfyngiadau lleol tebyg yn Lloegr fel y rhai sydd mewn grym yma yng Nghymru.

"Rwy'n credu wrth i ni weithredu i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd gyda lefelau uchel yng Nghymru rhag teithio i Loegr, gan gymryd risg o gario'r feirws gyda nhw, felly dylai'r prif weinidog yn ei gapasiti fel Prif Weinidog Lloegr yn yr achos yma wneud yr un peth i atal pobl mewn ardaloedd gyda lefelau uchel yn Lloegr rhag teithio i fannau eraill yn Lloegr, Cymru neu ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig o achos y risg ddiamheuol byddai hyn yn ei gynnig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi ysgrifennu at Boris Johnson ddydd Llun

Dywedodd Adam Price nad oedd gweinidogion o Lywodraeth Cymru wedi bod yn "effro i'r anghysonderau yn y cyngor ar deithio" pan gafodd cyfyngiadau lleol mwy llym eu cyflwyno bron i dair wythnos yn ôl.

"Mae caniatáu pobl mewn ardaloedd gyda lefelau uchel o Covid yn Lloegr i deithio i Gymru yn tanseilio ymdrechion i reoli'r feirws.

"Mae'r prif weinidog wedi petruso cyn codi hwn fel mater gyda phrif weinidog [y DU] ac nid oes ymgyrch wybodaeth gyhoeddus wedi bod gan Lywodraeth Cymru wedi ei thargedu at y rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd o gyfyngiadau lleol dros y ffin.

"Mae'r oedi yma yn rhoi cymunedau mewn risg," meddai.

'Ymrwymo' i etholiad

Dywedodd Mr Drakeford ddydd Mawrth ei fod "wedi ei ymrwymo'n gryf" i gynnal etholiad ym mis Mai 2021.

Ond ychwanegodd nad oedd neb yn gwybod sut gyflwr fyddai ar y pandemig coronafeirws erbyn y gwanwyn nesaf, ac roedd am weld etholiad lle'r oedd modd i bob dinesydd o Gymru oedd am fynd i orsaf pleidleisio allu gwneud hynny.

Mae rhaniadau barn ymysg grwpiau gwleidyddol Senedd Cymru ar y mater o roi grymoedd i'r Llywydd i oedi'r broses o gynnal etholiad y flwyddyn nesaf, heibio mis ar ôl y dyddiad.

Mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid y fath gam, tra bod y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn gwrthwynebu.

Dywedodd Mark Reckless o Blaid Brexit y byddai'n "anghywir i ymestyn ein tymor ymhellach, neu greu oedi i'r etholiadau hynny".

"Fel y dywedodd un o fy etholwyr heddiw... os gallwn giwio mewn archfarchnad yna siawns y gallwn ni giwio i bleidleisio."

Mewn ymateb dywedodd Mr Drakeford: "Rwyf wedi fy ymrwymo'n gryf i gael etholiad ym mis Mai'r flwyddyn nesaf. Dyma'n hollol y peth cywir, a'r hyn rwy'n gredu y dylid ddigwydd.

"Nid yw'n gywir fod y Senedd yn cael ei hymestyn tu hwnt i'r tymor presennol. Rwy'n credu'n gryf fod angen ail-danio democrataidd ar y Senedd."

Ond fe ychwanegodd fod Mai "yn bell iawn i ffwrdd" ac "rydym am gael etholiad lle bydd pob dinesydd Cymreig yn gallu teimlo eu bod yn gallu mynd i'r gorsafoedd pleidleisio heb feddwl nad oes modd gwneud hynny achos fe allai cyflwr iechyd cyhoeddus ar y pryd eu darbwyllo i beidio a wneud hynny".

"Mae'n annoeth i beidio bod yn barod i ystyried hynny ac i feddwl sut y byddem yn ymdopi gydag e, petai ni'n cael ein hwynebu ganddo."