Â鶹ԼÅÄ

Pobl ym Mlaenau Gwent yn 'anwybyddu cyngor ar Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Blaenau GwentFfynhonnell y llun, Jaggery/ Geograph

Mae pobl yn ardal Blaenau Gwent yn anwybyddu'r cyngor ar gadw'n ddiogel rhag Covid-19 ac yn ymddwyn yn hunanol.

Dyna ddywed cadeirydd y cyngor sir, Amanda Moore, wrth i nifer yr achosion positif yn yr ardal barhau i gynyddu.

Blaenau Gwent sydd â'r ail gyfradd uchaf o achosion o haint Covid-19 yn y Deyrnas Unedig, tu ôl i Burnley.

Roedd 307.7 achos am bob 100,000 o'r boblogaeth - 215 achos i gyd - yn yr wythnos hyd at 26 Medi.

Cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno yn yr ardal dros wythnos yn ôl.

Ar raglen frecwast Â鶹ԼÅÄ Radio Wales dywedodd Ms Moore: "Mae gyda ni nifer fach o bobl sy'n parhau i fwrw ymlaen a'u bywydau fel arfer ac yn anwybyddu'r cyngor.

"Dwi'n clywed fod pobl yn dweud 'ond pam ddylwn i bellhau'n gymdeithasol? Does gen i ddim mo'r haint'.

"Dyw'r math yma o feddylfryd ddim yn helpu neb, ac yn anghredadwy mae eraill yn parhau i gredu mai twyll yw'r holl beth.

"Os yw un person sy'n cario'r haint - hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw - a'u bod nhw'n mynd i le cyhoeddus, mae'n gallu effeithio ar gymaint o bobl."Does dim llawer o wahaniaeth wedyn os yw rheolau'n cael eu rhoi yn eu lle oherwydd bydd wastad pobl allan yno sydd eisiau eu torri."

Rheolau llym yn bosib

Mae eraill yn credu bod angen ystyried tynhau'r cyfyngiadau ymhellach, am nad yw cyfradd yr haint yn syrthio yn ddigon cyflym, o'i gymharu a llefydd eraill sydd hefyd wedi wynebu'r un cyfyngiadau.

Ar raglen y Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Mawrth dywedodd Alun Davies AS sy'n cynrychioli'r ardal yn Senedd Cymru: "Ar hyn o bryd mae'r rheolau yma wedi bod mewn grym ers wythnos, dy'n ni ddim wedi gweld yr impact eto a ry' ni y tu ôl i ardal fel Caerffili.

"Os ydy'r ffigyrau yn dal i dyfu ar ddiwedd yr wythnos yna bydd yn rhaid tynhau'r rheolau a gosod rheolau llym iawn, iawn yn eu lle.

"Dy'n ni ddim yn y sefyllfa hynny eto. Ry' ni wedi gweld bod y rheolau sydd yn eu lle eisoes yn gweithio ac felly rydw i eisiau gweld yr ymateb mewn rhai dyddiau. Mae pobl yn ymateb yn dda ar y cyfan."