Â鶹ԼÅÄ

Dwy ran o dair o Gymru i wynebu cyfyngiadau lleol

  • Cyhoeddwyd
Ynys Y BarriFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno ym Mro Morgannwg a dwy sir arall nos Lun

Bydd tair sir yn rhagor yn wynebu cyfyngiadau pellach ddydd Llun oherwydd pryderon am y cynnydd yn yr achosion o haint coronafeirws.

Ddydd Sul fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau yn dod i rym yn siroedd Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen am 18:00.

Mae'r cyfyngiadau newydd yn golygu bod naw o awdurdodau lleol Cymru ac un dref yn wynebu cyfyngiadau lleol.

Daeth cyfyngiadau tebyg i rym yng Nghaerdydd ac Abertawe nos Sul ac maen nhw yn weithredol yn Llanelli ers nos Sadwrn.

Pan ddaw'r cyfyngiadau diweddaraf i rym bydd bron i ddwy filiwn o bobl Cymru yn cael eu heffeithio - dwy ran o dair o'r boblogaeth.

Darlun cymysg yn y gogledd

Mae Llywodraeth Cymru am bwysleisio nad yw'n bosib i bobl o un ardal o dan gyfyngiadau lleol deithio i ardal arall o dan gyfyngiadau lleol oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol, fel teithio ar gyfer gwaith neu addysg.

O ran gogledd Cymru dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y "darlun yn un cymysg" a bydd arweinyddion y chwe chyngor yn cyfarfod yn ystod yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd yw prifddinas gyntaf y DU i wynebu cyfyngiadau lleol llymach

"Os oes angen i ni weithredu, fe wnawn ni - ond dyw'r sefyllfa ddim mor glir yno a beth yw hi yn y de ac rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar y sefyllfa yn fanwl," ychwanegodd y prif weinidog.

Ychwanega Llywodraeth Cymru bod nifer yr achosion yn y gogledd lawer yn is nag yn y de ond bod yna dystiolaeth bod y coronafeirws ar gynnydd mewn rhannau o'r rhanbarth.

Ffigyrau diweddaraf

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul fod 362 o achosion Covid-19 newydd wedi'u cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf, ond dim rhagor o farwolaethau.

Roedd 56 o'r achosion newydd yng Nghaerdydd, 49 yn Rhondda Cynon Taf, 36 yn Abertawe, 27 yn Sir Gaerfyrddin, 24 yr un ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, a 22 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Saith achos oedd yn Nhorfaen ddydd Sul ond bydd cyfyngiadau lleol yng Nghwmbrân a gweddill y sir nos Lun

22,945 yw cyfanswm yr achosion positif yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, gyda 1,612 o farwolaethau.

Blaenau Gwent, gyda 202 achos i bob 100,000 a Merthyr Tudful, gyda 169, sydd â'r cyfraddau heintiadau uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd holl fesurau'r cyfyngiadau lleol yn destun adolygiad cyson.

Yr awdurdodau lleol a'r heddlu fydd yn gyfrifol am eu gorfodi.

Dan y rheolau llymach, does neb yn cael teithio i nag o'r ardaloedd dan sylw heb reswm "rhesymol".

  • Mae pobl yn cael gadael er mwyn mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o'u cartrefi, i fynd i'r ysgol, i roi gofal neu i brynu bwyd a nwyddau meddygol.

  • Dim ond yn yr awyr agored y mae pobl yn cael cwrdd â phobl sy'n byw mewn aelwyd arall, oni bai bod reswm da, fel gofalu am rywun agored i niwed.

  • Rhaid i bob safle trwyddedig beidio â gwerthu alcohol ar ôl 22:00.

  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do, sy'n agored i'r cyhoedd, fel siopau, yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rheol yma'n berthnasol ymhob rhan o Gymru, gyda rhai eithriadau.