Ceiswyr lloches yn dechrau cyrraedd cyn wersyll milwrol

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl wedi cael eu gweld yn cyrraedd Gwersyll Hyfforddi Penalun ddydd Mawrth

Mae ceiswyr lloches wedi dechrau cyrraedd cyn-wersyll milwrol yn Sir Benfro, er gwaethaf pryderon yn lleol fod yna ddiffyg ymgynghori ynghylch y cynllun.

Mewn llythyr wedi'i gyfeirio at drigolion lleol, fe gadarnhaodd yr AS lleol - Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart - y bydd Gwersyll Hyfforddi Penalun yn gartref dros dro i 250 o ddynion.

Dywedodd bod yna ddyletswydd i gydymffurfio â gofynion yr Undeb Ewropeaidd o ran derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches nes y bydd y DU wedi gadael yr undeb yn gyfan gwbl.

"Trefniant dros dro yw hyn, gyda'r hawl gan y Swyddfa Gartref i ddefnyddio'r safle am hyd at 12 mis," meddai Mr Hart yn y llythyr.

Gwelodd ohebwyr Â鶹ԼÅÄ Cymru nifer o bobl ar y safle fore Mawrth - dynion, oll - yn cludo nwyddau ac offer cysgu.

Roedd yna hefyd bresenoldeb heddlu amlwg wedi i brotestwyr geisio rhwystro mynediad i'r gwersyll nos Lun.

Ond mae pobl leol wedi mynegi pryder mai unigolion o du hwnt i'r ardal sy'n arwain y protestiadau.

Disgrifiad o'r llun, Protestwyr wrth fynedfa'r gwersyll ddydd Llun

Dywedodd un dyn, nad oedd eisiau gael ei gyfweld: "Mae pobl sy'n byw yma wedi cynhyrfu llai amdano erbyn hyn.

"Maen nhw yma ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny, ond dylien ni wedi cael mwy o wybodaeth ynghylch beth sy'n digwydd.

"Does dim ymgynghori cymunedol wedi bod o gwbl."

'Rhydd i adael'

Disgrifiad o'r llun, Cyhoeddodd Simon Hart fanylion y cynllun ar ei dudalen Facebook nos Lun

Mae llythyr Mr Hart - AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Phenfro - yn cynnwys atebion y Swyddfa Gartref i nifer o gwestiynau ynghylch y penderfyniad i ddefnyddio safle Penalun.

  • Mae'r atebion yn datgelu bod yr unigolion sy'n cael eu danfon yno "ddim yn cael eu cadw, ac felly'n rhydd i adael y safle petawn nhw'n dymuno".
  • Mae yna drefniadau i ddiogelu'r safle ac i fonitro pwy sy'n cyrraedd a gadael. Ond gan y bydden nhw'n derbyn eu holl brydau a gwasanaethau lles yno, dyw'r Swyddfa Gartref ddim yn rhagweld llawer o resymau dros adael y safle.
  • Bydd yr awdurdod lleol yn derbyn treth cyngor mewn cysylltiad â'r safle, a bydd modd i'r heddlu geisio am gyllid i dalu'u costau. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu gwasanaethau iechyd yno er mwyn osgoi defnyddio adnoddau lleol.
  • Does "dim safleoedd pellach wedi eu nodi yng Nghymru" ar hyn o bryd, ond eu bod "yn parhau i archwilio angen potensial am ragor o opsiynau brys ar draws y DU";
  • Dywed y Swyddfa Gartref eu bod "yn anffodus, heb allu ymgynghori yn y modd arferol" am fod rhaid gweithredu ar frys.

Dywedodd Mr Hart fod y Swyddfa Gartref "â phwerau cyfreithiol eang yn y maes polisi hwn".

Ychwanegodd bod angen i'r awdurdodau lleol ganolbwyntio "ar leihau'r effaith yn lleol" i osgoi "cynyddu'r posibilrwydd o densiynau ac amharu'u gallu i fynd i'r afael â phryderon".

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn wnaeth benderfynu fod Gwersyll Penalun yn le addas i dderbyn ceiswyr lloches

'Llety priodol sy'n arbed arian cyhoeddus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Yn y cyfnod digynsail hwn, rydym wedi gweithio'n ddiflino gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddarparu llety priodol i geiswyr lloches fyddai fel arall wedi bod yn amddifad - fel y mae gofyn i ni wneud yn gyfreithiol.

"Yn dilyn trafodaeth fanwl gydag awdurdodau lleol, bydd rhai ceiswyr lloches nawr yn cael eu cartrefu mewn llety brys yng Nghaint a Sir Benfro, wedi'i ddarparu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

"Bydd hyn yn lliniaru'r ddibyniaeth ar westai ac yn sicrhau arbedion o hyd at 50% i drethdalwyr."