Â鶹ԼÅÄ

Protestio yn erbyn gwersyll ffoaduriaid newydd Penfro

  • Cyhoeddwyd
Penalun

Daeth torf o hyd at 30 o ymgyrchwyr a thrigolion lleol at ei gilydd ger giatiau hen wersyll milwrol Penalun ym Mhenfro ddydd Llun, er mwyn gwrthwynebu camau i'w droi yn gartref i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Wythnos diwethaf fe ddaeth i'r amlwg fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cartrefu hyd at 250 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar y safle ger Dinbych-y-pysgod.

Mae gwersyll hyfforddi Penalun ymysg nifer o leoliadau sydd yn cael eu hystyried, ac mae'n debyg fod rheolaeth dros y safle wedi ei drosglwyddo o ddwylo'r Weinyddiaeth Amddiffyn i'r Swyddfa Gartref.

Roedd swyddogion diogelwch newydd yn cadw llygad ar fynedfa'r gwersyll brynhawn dydd Llun, ac mae faniau a chontractwyr wedi bod yn mynd a dod oddi yno drwy gydol y dydd.

Cafwyd ymgais i atal mynediad i'r gwersyll gan rhai protestwyr, wrth iddyn nhw eistedd ar draws y brif fynedfa, tra bu eraill yn ceisio atal mynediad i fynedfa arall ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Nwyddau'n cael eu cludo i'r gwersyll ddydd Llun

Dywedodd rhai trigolion oedd am aros yn ddienw fod diffyg ymgynghori am y cynllun wedi eu gwneud yn bryderus ac yn teimlo fel nad oedden nhw'n rhan o'r drafodaeth am y safle. Daeth oddeutu 100 o bobl ynghyd ar draeth Dinbych-y-pysgod dros y penwythnos i ddangos eu cefnogaeth i ffoaduriaid.

Y grŵp Sefwch yn erbyn Hiliaeth drefnodd y brotest ar Draeth y Gogledd, a thanlinellwyd yn ystod sawl araith fod croeso i ffoaduriaid yn yr ardal, er y pryder am unrhyw gynllun i leoli'r ffoaduriaid yng ngwersyll Penalun.