Meddygon yn rhybuddio mai ail don o Covid yw'r ofn mwyaf

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed meddygon yng Nghymru bod ail don o Covid-19 yn hynod debygol ac mai dyna eu hofn mwyaf y gaeaf hwn.

Mewn arolwg a gafodd ei gynnal gan BMA Cymru dywedodd 86% o feddygon a myfyrwyr meddygol eu bod yn credu y bydd ail don o'r haint yn debygol yn y chwe mis nesaf.

Cafodd 544 o feddygon a myfyrwyr meddygol eu holi rhwng Medi 9 a Medi 11 eleni. Mae meddygon yn credu mai dryswch mesurau iechyd cyhoeddus, diffyg monitro a methiant y system brofi ac olrhain a allai fod yn bennaf gyfrifol am achosi ail don.

Roeddent yn nodi yn yr arolwg bod peidio cael mynediad hawdd i ganolfannau profi hefyd yn broblem. Wrth gael eu holi am be fyddai'n atal ail don, dywedodd meddygon bod cael system brofi ac olrhain sy'n ymateb yn gyflym yn hanfodol a nodwyd hefyd bod angen gweithredu cyson a chyflym pan mae nifer o achosion mewn un ardal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd yn rhaid gwisgo mwgwd ymhob siop yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen

Ar ran BMA Cymru dywedodd cadeirydd y cyngor, Dr David Bailey: "Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos ofnau mwyaf meddygon Cymru - ofnau sy'n deillio o'u profiadau bob dydd o ddelio â chleifion Covid-19.

"Wrth i gyfyngiadau lleol gael eu cyflwyno mewn rhannau o Gymru i atal yr haint rhag lledu, rhaid i ni gyd weithio'n gyda'n gilydd er mwyn atal yr haint rhag cydio yn ein cymunedau unwaith eto.

"Ond i wneud hyn rhaid cael canllawiau clir ac mae'n rhaid i'r system olrhain a phrofi weithio'n iawn - does dim disgwyl i'r cyhoedd deithio oriau o adref i gael prawf.

"Mae'n meddygon yn bryderus iawn am ddelio â'u gwaith arferol yn sgil ail don ac ry'n yn bryderus am effaith ail don ar feddygon wrth i nifer ohonynt ddweud eu bod o dan bwysau. Rhaid sicrhau nad yw ofnau meddygon yn cael eu gwireddu."

Yn y cyfamser bydd gwisgo mygydau mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig yn dod yn orfodol yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

Ddydd Gwener dywedodd Mr Drakeford fod y newid wedi dod yn sgil cynnydd yng nghyfradd yr achosion o Covid-19 yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y rheol yn berthnasol i dafarnau a thai bwyta

O ddydd Llun ymlaen bydd hefyd yn anghyfreithlon i fwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig gwrdd dan do yng Nghymru ond fydd y rheol ddim yn berthnasol i blant dan 11 oed.

Dim ond chwech o bobl (dros 11 oed) fydd yn gallu bwcio bwrdd mewn lle bwyta ar unrhyw adeg ond bydd yn rhaid i'r chwech hynny fod o'r un aelwyd estynedig.

"Bydd arwyddion, bydd plismona ond plismona yw'r dewis olaf," meddai'r Prif Weinidog, Mark Drakeford. "Yr hyn yr ydym am ei wneud yw addysgu, hysbysu, perswadio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ddydd Sul dangosodd ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 162 yn rhagor o bobl wedi cael prawf positif coronafeirws.

Hyd yma cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru yw 1,597, ac mae 19,390 wedi profi'n bositif.