Â鶹ԼÅÄ

Dim mwy na chwe pherson i gyfarfod dan do

  • Cyhoeddwyd
bwytaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rheol yn berthnasol i dafarnau a thai bwyta

Fe fydd yn anghyfreithlon i fwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig gyfarfod dan do yng Nghymru o ddydd Llun.

Er hynny bydd y rheol sy'n caniatáu i 30 o bobl o unrhyw aelwyd ymgynnull y tu allan yn parhau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cyfyngiadau coronafeirws newydd wedi'u cyflwyno yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 sy'n gysylltiedig gyda phobl yn cwrdd a chymdeithasu gyda'i gilydd o dan do.

Ni fydd y rheol newydd yn berthnasol i blant o dan 11 oed.

Bydd gwisgo mygydau mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig hefyd yn dod yn orfodol yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

Ers diwedd Awst mae hyd at bedair aelwyd wedi gallu cwrdd dan do o dan drefniadau aelwyd estynedig Cymru.

Ond hyd yma, does dim terfyn ar faint o bobl allai gwrdd o dan y drefn yna.

Fe fydd y rheol newydd yn cyfeirio at dafarnau a thai bwyta yn ogystal â thai preifat.

Fe ddaw yn dilyn cyhoeddiad nos Iau y byddai trigolion Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn cael cais i wisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus dan do ac wrth weithio, ac i ond ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw'n hanfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford yn trafod y rheolau newydd mewn cynhadledd newyddion ddydd Gwener

Ni fydd y rheol newydd yn weithredol yn ardal bwrdeistref Caerffili, a gafodd ei roi dan gyfyngiadau arbennig ddydd Mawrth. Mae aelwydydd estynedig wedi'u gwahardd yno am y tro.

Mae Caerffili wedi gweld un o'r graddfeydd uchaf o achosion yn y DU, gyda 91.1 achos am bob 100,000 o'r boblogaeth dros gyfnod o saith diwrnod.

Mae'r ail raddfa uchaf yng Nghymru ym Merthyr Tudful.

Fe ddaw cyhoeddiad Llywodraeth Cymru wedi i rannau eraill o DU hefyd gyfyngu ar faint o bobl sy'n cael cwrdd dan do i chwech, ond mae'r cyfyngiad yna yn berthnasol dan do a thu allan yn y gwledydd eraill.

Bydd ymgynulliad o fwy na chwe pherson yn anghyfreithlon yn Lloegr o ddydd Llun gydag ychydig eithriadau, ac fe gafodd y nifer hefyd ei gwtogi yn Yr Alban.

Mae disgwyl i'r prif weinidog Mark Drakeford ymhelaethu ar y rheolau newydd mewn cynhadledd newyddion am 12:30 ddydd Gwener.