Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: 162 yn rhagor wedi profi'n bositif

  • Cyhoeddwyd
prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 162 yn rhagor o bobl wedi profi'n bositif i coronafeirws.

Ni chafodd rhagor o farwolaethau eu cofnodi yn y 12 diwrnod diwethaf.

Hyd yma cyfanswm y marwolaethau yw 1,597, gyda 19,390 wedi profi'n bositif.

Mae 406,955 wedi cael eu profi, gyda 387,565 yn profi'n negyddol.

Cafodd 11,224 o brofion eu cynnal yng Nghymru dydd Sadwrn.

O'r 162 o brofion positif roedd yna 31 o achosion ychwanegol yng Nghaerffili, gyda 47 yn Rhondda Cynon Taf ond roedd llai o achosion yng Nghasnewydd (15) a Chaerdydd (14).

Disgyblion yn gorfod hunan-ynysu

Yn y cyfamser, ddydd Sul, mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod rhai o rieni ysgol gynradd yng Nghaernarfon wedi cael llythyr yn gofyn i'w plant hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Daw hyn ar ôl i un o ddisgyblion Ysgol yr Hendre brofi'n bositif i'r haint.

Fe fydd disgyblion o un flwyddyn gyfan yn gorfod hunan-ynysu.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor fod yr ysgol gynradd wedi dilyn y canllawiau cadarn oedd eisoes mewn grym er mwyn osgoi plant o flynyddoedd gwahanol rhag cysylltu â'i gilydd.

Ychwanegodd y bydd yr ysgol yn cydweithio'n agos gyda'r tîm Profi, Olrhain a Diogelu lleol er mwyn rhoi gwybodaeth bellach i deuluoedd.

Fe fydd yr ysgol yn parhau ar agor i weddill y blynyddoedd, ac mae rhieni yn cael eu cynghori i anfon eu plant i'r ysgol oni bai eu bod yn arddangos symptomau.