Teithwyr o Croatia ac Awstria yn gorfod hunan-ynysu

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Roedd tua 875,000 o bobl wedi teithio i Croatia o Brydain yn 2019

Bydd pobl sy'n teithio i Gymru o Croatia ac Awstria yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cyrraedd adref o ddydd Sadwrn.

Roedd gweinidogion pedair llywodraeth y DU wedi cyfarfod brynhawn Iau i drafod newidiadau i'r rhestr o wledydd lle mae'n ddiogel teithio iddynt.

Cyhoeddwyd fod Croatia ac Awstria, yn ogystal a Trinidad a Tobago, wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws yno dros y dyddiau diwethaf.

Ond mae Portiwgal bellach wedi ei chynnwys ar y rhestr, ac felly ni fydd rhaid i deithwyr oddi yno aros mewn cwarantin ar ôl dychwelyd adref i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ni fydd yn rhaid hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o Portiwgal o hyn ymlaen

Yn Croatia cafodd 219 o achosion eu cofnodi ddydd Mercher, yn cynnwys un o chwaraewyr tîm pêl-droed Dinamo Zagreb.

Dros y pythefnos diwethaf bu 37.7 o achosion ym mhob 100,000 o bobl yno, o'i gymharu â 21 yn y DU.

Mae gwlad yn cael ei thynnu oddi ar y rhestr o wledydd diogel pan mae'r achosion yn mynd dros 20 ym mhob 100,000 o bobl dros saith diwrnod.

Wynebu dirwy o hyd at £1,000

Yn dilyn y cyfarfod gyda'r gweinidogion eraill, dywedodd gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, penderfynwyd ychwanegu Portiwgal at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio, a dileu Awstria, Croatia a Trinidad a Tobago.

"Yfory byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn, 22 Awst."

Mae Sbaen, Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Malta ymhlith y gwledydd lle mae'n rhaid mynd i gwarantin ar ôl dychwelyd i'r DU ar ôl ymweld â nhw.

Aeth tua 875,000 o bobl Prydain i Croatia yn 2019.

Gall pobl sydd ddim yn hunan ynysu wynebu dirwy o hyd at £1,000 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a £480 yn Yr Alban.