Â鶹ԼÅÄ

Cerddor o Gymru yn dod adre o Ffrainc mewn cwch pysgota

  • Cyhoeddwyd
Musicians from Dunedin Consort on the boat from France to the UKFfynhonnell y llun, Dunedin Consort
Disgrifiad o’r llun,

Cerddorion grŵp Dunedin Consort yn llogi cwch pysgota i ddod nôl o Ffrainc

"Doedd yna ddim ffordd arall i'r grŵp ddychwelyd o Ffrainc cyn i'r rheolau cwarantîn ddod i rym heblaw llogi cwch pysgota," medd Huw Daniel sy'n un o gerddorion y grŵp Dunedin Consort.

Wedi pump awr o hwylio ar draws y Sianel, fe gyrhaeddodd aelodau y band Portsmouth am 03:50 fore Sadwrn ac roedd y rheolau hunanynysu yn dod i rym am bedwar o'r gloch.

Mae'r rheolau yn golygu bod pobl o Brydain yn gorfod ynysu am 14 diwrnod ar ôl dod yn ôl o Ffrainc. Cafodd y mesurau eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o'r coronafeirws yn y wlad.

Fe wnaeth yr wyth aelod o'r band Albanaidd ddechrau ar eu taith wedi perfformiad yn Abaty Lessay yn Normandi nos Wener - hwn oedd cyngerdd cyntaf yr ensemble baróc ers y cyfnod clo ym mis Mawrth.

'Awyren yn costio £30,000'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Llun dywedodd Huw Daniel: "Fe aethon ni mas i Ffrainc ddydd Mercher am ddau ddiwrnod o ymarfer i ddechrau ac roedden ni yn gwybod bod yna risg bod yna reolau cwarantîn yn mynd i gael eu cyflwyno ond ddim y siŵr pryd.

"Pan gafon ni'r newyddion felly yn hwyr nos Iau fe aeth pennaeth y gerddorfa ati i drio ffindio ryw ffordd i ni gyrraedd adre cyn pedwar o'r gloch y bore ac edrych ar sawl ffordd, o drenau i fferis a hyd yn oed trefnu awyren arbennig i ni.

"Ond doedd dim gobaith gwneud hynny am y byddai'r awyren wedi costio £30,000 i ni."

Yn y diwedd fe lwyddon nhw i gyrraedd adref mewn cwch pysgota a chael a chael wnaethon nhw i gyrraedd mewn da bryd.

"Daeth dyn draw wrth i ni berfformio a'n pigo ni lan yn Cherbourg, awr i'r gogledd o ble roedd y cyngerdd ac fe lwyddon ni i ddod 'nôl gyda deng munud i sbario!'Roedd yr offerynnau gyda ni - y bas dwbl oedd yr offeryn mwyaf, roedd y bad yn ddigon mawr i'n dal ni gyd a'n hofferynnau, yn gyfforddus iawn a ffordd grêt o drafeilio, roedden ni gyd wedi mwynhau yn fawr iawn!

Ffynhonnell y llun, Dunedin Consort
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd y cyngerdd yn yr Abaty yn garreg filltir bwysig," medd Huw Daniel

Roedd hi'n bwysig i'r cerddorion beidio gorfod hunanynysu meddai Huw Daniel gan y byddai wedi golygu gorfod canslo mwy o waith yn y dyfodol.

Doedd nifer chwaith ddim yn awyddus i gyrraedd adref cyn y cyngerdd yn Normandi.

"Hwn oedd y cyngerdd cyntaf i ni ers mis Mawrth. Felly byddai wedi bod yn siom fawr dod 'nôl cyn y cyngerdd, ac er bod dau aelod wedi gwneud hynny, roedd y gweddill ohonom ni wedi aros gan fod y cyngerdd yn garreg filltir mor bwysig i ni fel cerddorion ar ôl y cyfnod clo," ychwanegodd Mr Daniel.