Â鶹ԼÅÄ

Cyfyngiadau pellach ar deithio adref ar ôl gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Eurostar St PancreasFfynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y mesurau newydd yn effeithio ar bawb sydd yn dychwelyd o Ffrainc

Mae miloedd o deithwyr o Gymru yn wynebu treulio pythefnos yn eu cartrefi yn dilyn penderfyniad Llywodraethau'r DU a Chymru i gyflwyno mesurau cwarantin ar bobl sy'n dychwelyd o Ffrainc a rhai gwledydd arall.

Cafodd y mesurau, a fydd yn dod i rym ddydd Sadwrn am 04:00, eu cyflwyno yn dilyn cynnydd mawr yn nifer yr achosion o Covid-19 yn Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Monaco, ac ynysoedd Malta, Turks a Caicos ac Aruba.

O dan y trefniant newydd mae'n rhaid i unrhyw sy'n cyrraedd o'r gwledydd rheiny aros yn eu cartrefi am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd adref.

Mae cyfyngiadau tebyg eisoes yn eu lle ar gyfer teithwyr o Sbaen, Serbia, Lwcsembwrg, Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i brif Weinidog Ffrainc gydnabod bod niferoedd yr achosion yn y wlad "yn mynd i'r cyfeiriad anghywir".

Mae Llywodraeth Prydain yn amcangyfrif bod 160,000 o bobl o Brydain ar wyliau yn Ffrainc ar hyn o bryd.

Newid trefniadau funud olaf

Mae Hefin Caradog o Bontypridd ar wyliau gyda'i deulu yn Llydaw. Ar raglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru dywedodd ei fod nawr yn ceisio dychwelyd adref cyn dydd Sadwrn.

"Ffeindio ni mas neithiwr cyn mynd i'r gwely felly roedden ni yn ymwybodol y byddai'n rhaid sortio rhywbeth mas y bore ma," meddai.

"Ry'n ni yn Llydaw yn trio cysylltu efo Brittany Ferries am ein bod ni eisiau dal fferi cyn gynted â phosib. Maen eithaf anodd cysylltu gyda nhw ar hyn o bryd."Dywedodd bod y posibilrwydd y byddai newidadau'n cael eu cyflwyno i'r drefn cwarantîn, yn dilyn yr hyn ddigwyddodd gyda Sbaen, a'u bod nhw wedi bod yn cadw golwg ar y newyddion.

"O ran gwaith rydw i yn gweithio mewn ysgol felly'n croesi popeth y gallai ddod 'nôl cyn dydd Llun, ac fe fyddai hyn yn fy nghaniatáu i ddychwelyd i'r gwaith ar ddiwrnod cynta' tymor ysgol.

"O ran fy nghariad a'i dwy ferch, fe fydd yn rhaid iddyn nhw fod mewn cwarantîn am bythefnos.

"Dydyn ni dim yn flin, ry'n ni'n deall bod y sefyllfa yn un ddifrifol, ond mae'n anodd derbyn penderfyniad y Llywodraeth ar hyn o bryd am eu bod nhw yn gosod y rheolau a ddim yn glynu atyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ofynnol i bobl wisgo gorchudd wyneb hyd yn oed y tu allan yn Ffrainc, fel yma yn Nice

Yn ogystal ag effeithio ar deithwyr o Gymru sy'n dymuno mynd i Ffrainc mae'r newidiadau ar y cyngor teithio yn effeithio ar y Cymry sy'n byw yno.

"Mae fy chwaer a'i theulu yma'n ymweld ar hyn o bryd", meddai Carys Coverdale sy'n byw yn Ne Ffrainc, hanner awr o Nice.

"Roedden nhw am aros tan ddydd Mawrth. Maen nhw'n lwcus am fod gŵr fy chwaer yn medru gweithio a hithau yn gallu newid pethau o gwmpas - mae'r cyfan jyst yn boen iddyn nhw.

"Dydan ni heb eu gweld ers Hydref diwethaf, dydy fy mam methu ymweld yr wythnos nesa am fod gormod yn mynd ymlaen, sy'n drueni am nad ydyn ni wedi eu gweld hi ers mis Chwefror.

"Dydy hyn ddim yn annisgwyl ond yn dal yn siomedig i bawb."Roedd Ffrainc i ddechrau lot mwy 'strict' ac wedi dod allan o lock-down lot cynt na Chymru a Lloegr ond rŵan mae pawb yn dod yma ar ei gwyliau a'r niferoedd wedi codi.

"'Da ni di gorfod gwisgo masg mwy aml, hyd yn oed y tu allan am fod pethau yn mynd yn waeth. Mae yna ddirwy o dros €100 yma am beidio gwneud hynny."