80 o swyddi'r Urdd dan fygythiad yn sgil Covid-19

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae hyd at 80 o swyddi Urdd Gobaith Cymru dan fygythiad yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Dywed y mudiad ieuenctid ei fod yn wynebu "cyfnod mwyaf heriol ei 98 mlynedd o hanes".

Mae'r mudiad wedi datgelu ei fod yn wynebu gostyngiad incwm o £14m dros y ddwy flynedd nesaf, sy'n golygu "newidiadau sylweddol i adnoddau'r Urdd".

Clywodd staff mewn cyfarfod fore Mercher fod y newidiadau hynny'n cynnwys torri gwasanaethau a cholli swyddi, gyda'r bwriad i addasu'r ddarpariaeth "dros y cyfnod nesaf a diogelu parhad i'r mudiad yn yr hirdymor".

Dywedodd y prif weithredwr, Sian Lewis: "Mae heddiw'n ddiwrnod trist i'r mudiad unigryw hwn sy'n rhan annatod o fywyd cymaint o bobl a phlant yng Nghymru."

Ar ben y swyddi sydd yn y fantol, mae'r mudiad yn rhagweld "effaith ar 70 weithwyr achlysurol allan o gyfanswm o 320 o weithlu".

Mae mwyafrif staff yr Urdd eisoes ar gynllun ffyrlo sy'n dod i ddiwedd mis Hydref.

Effaith 'ddinistriol'

Cost staffio flynyddol yr Urdd yw £6m, ond "hyd yn oed wedi gwneud toriadau i'r gweithlu" mae'r mudiad "yn rhagweld colledion ariannol sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf".

Oherwydd y pandemig, daeth holl weithgaredd yr Urdd i stop ar 20 Mawrth, a bu'n rhaid cau ei gwersylloedd a gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.

Mae cau'r gwersylloedd i gyrsiau preswyl yn golygu "gostyngiad incwm misol o £500,000", ac "mae'r rhagolwg ariannol am y 18 mis nesaf yn dangos colledion o dros £3.4m i'r Urdd".

"Mae effaith y pandemig wedi bod yn ddinistriol i bob un adran o'r Urdd," meddai Ms Lewis.

"Nid oes dewis ond ail-edrych ar wariant y mudiad gan barhau i gynnig rhai gwasanaethau o fewn canllawiau diogelwch llym gan gofio'r brif amcan o ddiogelu dyfodol y mudiad.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Eisteddfod yr Urdd eleni ei gohirio oherwydd y pandemig

"Mae'r newyddion yma yn peri gofid a phryder i'n gweithlu a'n consyrn pennaf yn yr wythnosau nesaf fydd eu lles hwy.

"Bydd trafodaethau yn mynd yn eu blaenau ymhob adran i weld sut bydd y toriadau yn effeithio ar staff ac ar ddyfodol gwasanaethau'r adrannau hynny."

Ychwanegodd fod yr argyfwng ariannol yn deillio'n "gyfangwbl" oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a bod rheolwyr ac ymddiriedolwyr yr Urdd "wedi edrych ar bob ffynhonnell posib er mwyn achub gymaint o'r gweithlu ag sy'n bosib".

'Dim modd i unrhyw sefydliad oroesi sefyllfa o'r fath'

"Mae'r Urdd wastad wedi rhoi pwyslais ar greu incwm ei hun heb fod yn or-ddibynnol ar arian cyhoeddus, ac wedi llwyddo i ddatblygu model busnes llwyddiannus," meddai.

"Y llynedd, roedd trosiant yr Urdd dros £10m gyda chyfraniad o 19% yn unig gan y pwrs cyhoeddus.

"Bellach gyda'n gwersylloedd ar gau i gyrsiau preswyl, diffyg incwm ein gwaith cymunedol a chwaraeon, mae'r sefyllfa wedi rhoi ac yn parhau i osod straen enfawr ariannol ar yr Urdd.

"Ni fyddai modd i unrhyw sefydliad oroesi sefyllfa o'r fath heb wneud toriadau ac yn anffodus dyna sy'n wynebu'r Urdd.

"Rydym wedi bod yn llwyddiannus mewn dau gais cyllid ac wedi derbyn cyfanswm cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru o £3.1m. Mae'r cymorth yma'n werthfawr tu hwnt ac fe fydd yn ein galluogi ni gadw fframwaith o staff craidd i gynnal sylfaen o wasanaethau ar draws ein holl blatfformau a pharhau a chwblhau ein prosiectau adeiladu."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywed rheolwyr fod rhaid cymryd camau i sicrhau dyfodol hirdymor y mudiad

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd yr Urdd: "Gyda chalon drom yr ydyn ni fel mudiad yn rhannu'r wybodaeth am sefyllfa'r Urdd.

"Achub y gweithlu ac achub yr Urdd yn amlwg sydd wedi bod ar ein meddyliau am bron i bedwar mis. Mae'r dyfodol yn un bregus, ond rhaid cynllunio i sicrhau dyfodol a hirhoedledd i'r Urdd ac i'n haelodau.

"Rydym yn ddiolchgar i'n aelodau, cefnogwyr a gwirfoddolwyr dros y degawdau a rwy'n hyderus, gyda'n gilydd, y gallwn oroesi'r cyfnod anodd hwn. Byddwn yn rhannu unrhyw newyddion am ein gwasanaethau pan fydd yn addas. Am nawr, bydd y mudiad yn canolbwyntio ar gefnogi ein gweithlu trwy'r cyfnod nesaf."

Mae'n fwriad, meddai, i weithio "mewn ffyrdd newydd" dros yr haf ac wedi mis Medi i drefnu gweithgareddau i bob oedran, gan gynnwys arlwy ddigidol chwaraeon a chelfyddydol, cyfleoedd awyr agored "ynghyd â pharhad i'n gwasanaeth Prentisiaethau".

"Byddwn yn ailagor ein gwersylloedd gyda phwyll ac o fewn rheolau iechyd a diogelwch gan edrych ymlaen at groesawu ieuenctid Cymru yn ôl."

Strategaeth i'r dyfodol

Doedd y prif weithredwr Sian Lewis ddim yn darogan y byddai angen torri mwy o staff yn y dyfodol gan ddweud bod y mudiad wedi gosod strategaeth yn ei le ar gyfer y ddwy flynedd nesaf: "Da ni yn weddol hyderus ar hyn o bryd bod ni wedi gwneud popeth posib i warchod yr Urdd a gwarchod y gweithlu da ni yn rhagweld bydd yn aros efo ni."

Roedd yr Urdd yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i gael nawdd gan Lywodraeth Cymru, meddai, ond does dim bwriad ganddynt i ofyn am fwy o gymorth ariannol gan y llywodraeth.

"Fe wnaethon ni rhoi dau gais ariannol mewn a fuon ni yn llwyddiannus efo'r ddau gais yna sef £3.1 miliwn. Ond mae'n rhaid i ni hefyd sylweddoli bod sefydliadau ar draws Cymru sydd angen cefnogaeth y llywodraeth."

Mae hi'n hyderus y bydd yr Urdd yn goroesi. "Mae gennon ni aelodau, 60,000 ohonyn nhw. Mae gennon ni fyddin o wirfoddolwyr sydd wedi ein cefnogi ni ar hyd y degawdau. Mae gennon ni athrawon ar draws Cymru sydd yn rhoi eu hamser i gefnogi ni. Byddwn ni yn dod 'nôl a gallwn ni oroesi a byddwn ni yn gwneud hynny efo eu cefnogaeth nhw."