Â鶹ԼÅÄ

Parciau chwarae plant i gael ailagor wrth i'r cyfyngiadau lacio

  • Cyhoeddwyd
RoundaboutFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd parciau chwarae yn cael ailagor ymhen ychydig dros wythnos

Bydd parciau chwarae a chanolfannau cymunedol yn cael ailagor yng Nghymru o 20 Gorffennaf.

Fe fydd prif weinidog Cymru yn gwneud y cyhoeddiad yn ddiweddarach dydd Gwener, fel rhan o'r adolygiad tair wythnosol o'r cyfyngiadau coronafeirws.

Bydd siopau tatŵs a busnesau eraill o fewn y diwydiant harddwch yn cael neges i ddechrau paratoi ar gyfer ailagor ar 27 Gorffennaf "os bydd amodau yn caniatáu hynny".

Wrth i lety hunangynhaliol baratoi i ailagor dros y penwythnos, dywedodd Mark Drakeford wrth y Â鶹ԼÅÄ y byddai meysydd gwersylla hefyd yn cael agor o 25 Gorffennaf ymlaen.

Bydd pobl yn cael dechrau prynu a gwerthu tai hefyd, ar ôl i Mr Drakeford ganiatáu i bobl ymweld â thai sydd ar y farchnad o 27 Gorffennaf.

Bydd sinemâu, amgueddfeydd ac arddangosfeydd hefyd yn ailagor o 27 Gorffennaf.

Fe fydd Mr Drakeford hefyd yn cadarnhau y bydd tafarndai, caffis a bwytai yn gallu agor yn yr awyr agored o ddydd Llun nesaf ymlaen.

Hefyd yn ailagor drwy apwyntiad bydd siopau trin gwallt, barbwyr a chwmnïau trin gwallt symudol.

Bydd meysydd chwarae a chanolfannau cymunedol yn agor ar 20 Gorffennaf.

O ddydd Sadwrn ymlaen bydd llety gwyliau yng Nghymru yn gallu croesawu ymwelwyr unwaith eto.

Mae hyn yn bosib ar ôl i Lywodraeth Cymru - cyfyngiadau oedd yn dweud na ddylai pobl deithio dros bum milltir o'u cartrefi oni bai bod gwir angen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai siopau tatŵs a busnesau eraill o fewn y diwydiant harddwch ailagor ar 27 Gorffennaf

Yn siarad gyda'r Â鶹ԼÅÄ fore Llun, rhoddodd y prif weinidog y golau gwyrdd i ail-ddechrau'r farchnad dai erbyn diwedd Gorffennaf.

Bydd gan bobl yr hawl i ymweld â thai sydd ar werth o 27 Gorffennaf, ond ni wnaeth gyhoeddiad pendant am drethi ar brynu tai.

Dywedodd y byddai'n "edrych ar ein hopsiynau" o ran y dreth trafodiadau tir, sydd wedi'i datganoli yng Nghymru, yn sgil penderfyniad gan Lywodraeth y DU i atal y dreth am y tro yn Lloegr.

Gwrthbleidiau eisiau eglurder

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y "mesurau'n cael eu cyflwyno fesul cam bob dydd Llun dros y cylch adolygu nesaf, a fydd yn gweld rhannau helaeth o ddiwydiannau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru yn ailagor".

Ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymhelaethu ar beth fydd y mesurau dan sylw.

Ond mae disgwyl i Mr Drakeford ddatgelu mwy yn ystod cyfarfod dyddiol y wasg.

Cymru yw'r rhan olaf o'r DU i roi dyddiad ar gyfer pryd fydd caniatâd i dafarndai a bwytai allu gweini dan do.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ei bod hi'n "dda gweld bod nifer yr achosion yng Nghymru yn gostwng" gan alluogi'r llacio.

Ond ychwanegodd unwaith eto mai "iechyd yw'r flaenoriaeth" a bod angen i bobl "sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn ofalus a sylweddoli nad yw'r feirws wedi diflannu".

Mae undebau wedi galw am ddyddiad ar gyfer ailagor y sector lletygarwch - tra bod tafarndai wedi galw am lacio'r rheolau yn ymwneud ag ymbellhau cymdeithasol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi galw am lacio y rheol dau fetr, a galw am gynllun i ailagor safleoedd gwersylla, tafarndai, caffis a thai bwyta.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod angen "strategaeth llawer mwy clir" ar gyfer defnyddio y capasiti sydd ar gael er mwyn profi am y feirws.

"Mae amseroedd aros wedi bod yn mynd yn hwy, gan danseilio y 'system rhybudd cynnar' sydd ei angen er mwyn atal achosion o Covid," meddai.