Cynghorau Cymru 'mewn safle gwell' na Lloegr i ddelio â Covid-19

Dywedodd y Gweinidog Cyllid nad ydy hi'n tanamcangyfrif yr heriau sydd gan gynghorau lleol o ganlyniad i'r pandemig.

Yn Lloegr mae rhai cynghorau'n pryderu y byddan nhw'n mynd i'r wal o achos costau coronafeirws.

Ond wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru brynhawn dydd Iau, dywedodd Rebecca Evans bod Cymru "mewn safle gwell".

Dywedodd Ms Evans fod hynny "am ein bod wedi blaenoriaethu gwariant ar lywodraeth leol drwy gydol y cyfnod o gyni ariannol".

"Mae awdurdodau yn Lloegr wedi dioddef yn sylweddol yn ystod y degawd diwethaf ond rydym mewn lle gwell," meddai. "Maen nhw'n fwy gwydn yma ond nid wyf yn tanamcangyfrif y sialens.

"Rydym wedi adnabod rhai o'r pwysau gwirioneddol y mae cynghorau yn ei wynebu. Rydym wedi sefydlu cronfa galedi cynghorau lleol gwerth £180m.

"Mae hyn yn cynnwys £40m ar gyfer gofal cymdeithasol - y cyfarpar PPE ychwanegol sydd ei angen a'r staff ychwanegol sydd ei angen i lewni gwaith staff sydd yn sâl.

"Mae hefyd yn cynnwys arian sydd ar gael i blant sydd yn derbyn cinio ysgol am ddim dros yr haf. Ni oedd y cyntaf yn y DU i wneud hyn," ychwanegodd.

Beth am dafarndai?

Wrth gyfeirio at dafarndai dywedodd Rebecca Evans nad oes dyddiad penodol eto ar gyfer ailagor.

Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb ddyddiad penodol ac mae'r gwrthbleidiau wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod amserlen.

"Ni allaf roi dyddiad hyd yma, ond mae trafodaethau gyda'r diwydiant yn parhau ond bod hi'n anodd iawn fod yn benodol gan nad yw hi'n bosib gwybod hyd a lled yr haint yn ystod yr wythnosau nesaf," meddai.

"Mae'r camau nesaf ar gyfer ailagor wedi cael eu cydlynu ac mae hynny yn cynnwys trafodaethau ar gael mwy o lefydd eistedd tu allan mewn trefi a dinasoedd er mwyn helpu'r diwydiant."