75 o weithwyr ffatri ieir wedi eu heintio

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae 560 o bobl yn gweithio yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni

Mae nifer y gweithwyr sydd wedi eu profi'n bositif am coronafeirws mewn ffatri brosesu bwyd yn Sir Fôn wedi codi i 75.

Mae holl staff cwmni 2 Sisters yn Llangefni yn hunan-ynysu ac mae'r safle wedi cau ar ôl i nifer o weithwyr yno brofi'n bositif ddydd Iau.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi disgwyl i'r nifer gynyddu, gan ychwanegu fod samplau eisoes wedi eu cymryd oddi wrth tua 350 o aelodau staff.

Mae canolfannau profi wedi eu sefydlu yn Llangefni a Chaergybi, ac roedd yna eisoes safle profi ym Mangor.

Mae'r holl staff o tua 560 wedi cael cais i hunan-ynysu am 14 diwrnod, gyda swyddogion iechyd yn cysylltu â nhw er mwyn cynnal profion.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y sustem olrhain a phrofi yn gweithio fel y dylai.

"Rydym yn sgrinio staff ac mae hyn yn ein galluogi i adnabod pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r rhai sy wedi profi'n bositif ar gyfer Covid-19," meddai Dr Christopher Johnson o Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae 2 Sisters Food Group yn un o'r cynhyrchwyr bwyd mwyaf yn y DU, sy'n cynnwys brandiau fel Fox's Biscuits a Holland's Pies.

Mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu tua thraean o holl gynnyrch dofednod sy'n cael ei fwyta yn y DU.

Yn ôl y cwmni, eu blaenoriaeth nawr fydd cefnogi eu cydweithwyr drwy'r cyfnod nesaf ac edrych ymlaen at ail-ddechrau'r gwaith yn ddiogel ymhen 14 diwrnod.

Ddydd Sul, cyhoeddodd y cyngor sir na fyddai ysgolion yr awdurdod yn ailagor ar 29 Mehefin o ganlyniad i'r clwstwr o achosion.