Â鶹ԼÅÄ

£15m i newid trefniadau teithio yn sgil coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd mesurau yn cynnwys lledu palmentydd a chreu mwy o le ar gyfer beicwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa gwerth £15.4m i greu mwy o le i bobl symud o amgylch trefi a dinasoedd o dan y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol.

Bydd mannau cyhoeddus poblogaidd fel canol trefi, ardaloedd cymunedol a pharciau yn cael eu hail ddylunio fel rhan o'r cynllun.

Fe fydd mesurau yn cynnwys lledu palmentydd, creu mwy o le ar gyfer beicwyr a gwella trafnidiaeth gyhoeddus.

Gyda disgwyl i ysgolion ailagor ar 29 Mehefin, bydd £2m o'r arian yn cael ei wario ar gadw pellter cymdeithasol o amgylch ysgolion.

'Ymddygiad pobl wedi newid'

Mae disgwyl i brosiectau yn Abertawe, Blaenau Gwent, Caerdydd, Conwy, Sir Gâr, Sir Ddinbych ac Ynys Môn gael eu cwblhau o fewn y pedwar mis nesaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai nod y gronfa Trawsnewid Trefi ydy adeiladu ar y cynnydd ym mhoblogrwydd cerdded a seiclo yn ystod y cyfnod clo a gwneud "gwahaniaeth gwirioneddol" i sut y mae pobl yn teithio yn lleol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mannau gwyrdd fel parciau yn cael eu hail ddylunio er mwyn hwyluso pellhau cymdeithasol

"Yn ystod y cyfnod dan glo, mae ymddygiad pobl wedi newid, gyda mwy a mwy yn dewis cerdded a beicio i wneud eu teithiau angenrheidiol," meddai'r Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.

"Wrth adael y tÅ·, mae hi wedi bod yn bleser sylwi ar yr aer glanach a'r strydoedd tawelach.

"Ond mae'n amlwg bod rhaid gweithredu nawr i gadw'r ymddygiad newydd dros y tymor hir trwy wneud newidiadau positif i symud gofod ffyrdd yng nghanol trefi ac yn ein cymunedau a rhoi seilwaith teithio llesol gwell yn ei le."

Mae cynllun peilot ar gyfer cadw pellter cymdeithasol eisoes ar waith ar Heol Wellfield yng Nghaerdydd, ble mae llefydd parcio wedi cael eu cau er mwyn lledu'r palmant er mwyn rhoi lle i bobl giwio tu allan i siopau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn bod gan Gymru "gyfle unigryw i ailystyried ac ailddylunio" er mwyn gwneud mannau cyhoeddus yn "fwy diogel a deniadol".

"Nid oes gwadu bod y pandemig wedi gwneud amser yn anodd i fusnesau ond bu'n gyfle hefyd i ddylunio ein hardaloedd prysur mewn ffordd newydd," meddai.

"Rwy'n gobeithio y gwnaiff y newidiadau wella ein mannau cyhoeddus a chanol ein trefi a phrofiadau pobl ohonynt fel rhan o'n cynllun tymor hir i drawsnewid trefi Cymru i sicrhau eu bod yn goroesi ac yn wir, yn ffynnu yn y dyfodol."