Covid-19: Ysgolion Sir Fôn i aros ynghau am y tro

Mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi na fydd ysgolion y sir yn ailagor ar 29 Mehefin yn ôl y disgwyl.

Mewn datganiad brynhawn dydd Gwener dywedodd y cyngor bod penderfyniad wedi cael ei wneud "o ganlyniad i'r cynnydd diweddar mewn achosion positif o'r coronafeirws ar yr ynys".

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod cwmni 2 Sisters wedi penderfynu cau eu ffatri yn Llangefni yn dilyn nifer uchel o achosion positif ymysg y gweithlu.

Erbyn prynhawn dydd Gwener roedd nifer yr achosion positif wedi cynyddu i 61.

Dywed y cyngor y byddant yn cynnal trafodaethau pellach gyda'r ysgolion yr wythnos nesa cyn penderfynu os byddant yn ailagor o gwbl cyn diwedd y tymor.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi: "Rydw i wedi pwysleisio o'r dechrau mai iechyd a diogelwch ein plant, staff a chymunedau sy'n gorfod dod gyntaf.

"Mae'r nifer cynyddol o ganlyniadau positif ar yr ynys a'r newyddion ddoe am gau ffatri 2 Sisters yn Llangefni wedi creu llawer iawn o ansicrwydd a phryder ar yr ynys."

Ychwanegodd ei bod hi'n bosib y bydd yna gynnydd yn lefelau trosglwyddo'r feirws i'r gymuned yn ehangach.

"O ganlyniad, dydw i ddim ar hyn o bryd yn fodlon gweld dosbarthiadau yn cael eu hagor i blant Ynys Môn," meddai Ms Medi.

"Mewn argyfwng fel hyn mae pethau'n symud yn gyflym ac mae'n bwysig ein bod ni'n trafod.

"Mae'r athrawon wedi gweithio yn hynod o galed er mwyn paratoi awyrgylch ddiogel ar gyfer 29 Mehefin ond mae'r gwaith hwnnw rŵan yn ofer.

"Bydd rhaid inni gael sgwrs hefo nhw yr wythnos nesa am yr ail a'r drydedd wythnos.

"Mae'n rhaid inni wneud hyn mewn partneriaeth hefo nhw ac wrth inni ddod i ddeall yn iawn be mae'r achosion yma yn eu golygu inni ym Môn - a be fydd y niferoedd yr wythnos nesa.

"Rhaid inni wneud hyn yn ddoeth a phwyllog."