Â鶹ԼÅÄ

Rhai ysgolion i agor am dair wythnos yn unig cyn yr haf

  • Cyhoeddwyd
iard ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd plant mewn rhai o siroedd Cymru yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth am dair wythnos yn unig pan fyddan nhw'n mynd yn ôl i'r ysgol ar 29 Mehefin.

Roedd Llywodraeth Cymru eisiau ymestyn tymor yr haf wythnos hyd at 24 Gorffennaf.

Ond roedd undebau'n poeni y byddai hyn yn achosi problemau i gytundebau staff.

Mater i'r cynghorau yw penderfynu, felly bydd disgyblion yng Nghaerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Wrecsam yn gorffen ar y dyddiad diwedd tymor gwreiddiol ar 17 Gorffennaf.

Bydd ysgolion Conwy yn dychwelyd am bedair wythnos.

Mae Cyngor Ynys Môn eisoes wedi cyhoeddi na fydd ysgolion y sir yn ailagor ar 29 Mehefin "o ganlyniad i'r cynnydd diweddar mewn achosion positif o'r coronafeirws ar yr ynys".

Bydd y sir yn cynnal trafodaethau pellach yr wythnos nesa cyn penderfynu os byddant yn ailagor o gwbl cyn diwedd y tymor.

Mae'r gwahaniaeth mewn dyddiadau diwedd tymor yn dilyn anghytuno rhwng y llywodraeth ac undebau.

Mae trafodaethau yn parhau ond mae rhai cynghorau wedi gwneud penderfyniad terfynol am "nad yw hyn yn rhywbeth y gellir ei adael tan y funud olaf".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i awgrymu ymestyn y tymor, a'u bod yn "cydnabod mai penderfyniad i'r awdurdodau ydy hyn yn y pendraw".

Dywed Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn credu y byddai wythnos ychwanegol cyn yr haf yn "bwysig iawn i helpu ysgolion i gymryd dull graddol o gefnogi pob plentyn a pherson ifanc".

Ond dywedodd Cyngor Wrecsam fod y llywodraeth yn rhoi "ysgolion a'r cyngor mewn sefyllfa anodd iawn".

"Nid oes unrhyw rwymedigaeth cytundebol i staff weithio'r wythnos ychwanegol - gan roi'r cyfrifoldeb ar benaethiaid a staff unigol, sy'n annheg," meddai llefarydd mewn datganiad.