'Blaenoriaeth i iechyd' wrth ystyried llacio rheolau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth nifer o siopau a busnesau ailagor yn Lloegr ddydd Llun

Mae'r prif weinidog wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar wahanol feysydd lle mae modd llacio'r cyfyngiadau presennol ar coronafeirws.

Ond yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, ychwanegodd Mark Drakeford er ei fod yn awyddus i aildanio'r economi mae'n rhaid blaenoriaethu diogelwch ac iechyd y cyhoedd.

Fe fydd unrhyw benderfyniadau ynglŷn â llacio unrhywfaint ar y cyfyngiadau presennol yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal eu harolwg tair wythnosol.

Roedd Mr Drakeford hefyd yn feirniadol o'r hyn a alwodd yn ddiffyg cyswllt sydd gan weinidogion y DU.

Dydd Llun fe wnaeth Mr Drakeford hefyd rybuddio am beryglon o "lacio gormod yn rhy fuan".

Dywedodd y byddai hynny'n waeth i'r economi pe bai'r feirws yn ymledu eto a bod angen ail gyfnod clo

Fe wnaeth siopau sy'n gwerthu nwyddau heb fod yn rhai angenrheidiol ailagor yn Lloegr ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mark Drakeford fod rhai cymryd gofal wrth lacio unrhyw reolau

Yn ôl Mr Drakeford roedd gweinidogion Cymru yn "edrych ac yn dysgu o brofiadau gwahanol wledydd y byd".

Rhybuddiodd na fyddai pethau yn dychwelyd i'r hun oeddynt cyn y pandemig.

"Tra bod y feirws wedi cilio ac mae llai o bobl yn sâl, dyw coronafeirws heb ddiflannu. Mae e dal yn bresennol yng Nghymru ac mae yna risg o hyd y gallwn wynebu ail don yn ddiweddarach yn y flwyddyn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru ond yn llacio rheolau mewn modd gofalus.

Yn ogystal, meddai, fe fyddai busnesau fel rhai yn y maes twristiaeth angen cefnogaeth y cyhoedd yn lleol er mwyn llwyddo.

Un prawf i weld os mai nawr oedd yr amser cywir yw i weld a fyddai yna groeso i dwristiaid gan y bobl leol.

"Pe bai ni'n ailagor i dwristiaeth mewn rhannau o Gymru, yna pan mae ymwelwyr yn cyrraedd maen nhw angen gwybod fod yna groeso iddynt yn y cymunedau," meddai.

Yn ystod y gynhadledd fe wnaeth Mr Drakeford gwyno am y diffyg cysylltu o ran gweinidogion y DU, ag eithrio Ysgrifennydd Cymru Simon Hart.

Yn ôl Mr Drakeford mae'n bythefnos i ddydd Iau diwethaf ers iddo siarâd gyda Boris Johnson.