Â鶹ԼÅÄ

Ystyried ailagor tafarndai a bwytai ond 'dim addewidion'

  • Cyhoeddwyd
Tafarn Central Bar, JD Wetherspoon Caerdydd ar y noson olaf cyn y cyfnod cloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o dafarndai JD Wetherspoon yng Nghaerdydd ar y noson olaf cyn y cyfnod clo

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau fod y posibilrwydd o ganiatáu i fwytai a thafarndai ailagor mewn rhyw fodd, fel sy'n cael ei awgrymu yn Lloegr, yn cael ei ystyried.

Dywedodd Mark Drakeford fod yna "restr hir" o syniadau posib ar gyfer llacio'r rheoliadau ymhellach, ac y byddai rhestr fer yn cael ei llunio'r wythnos nesaf.

Ond fe ychwanegodd nad oedd modd gwneud addewid, gan fod "llawer iawn o geisiadau eraill yn cael eu gwneud" ar gyfer yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau.

Mewn ymateb i gwestiwn am y diwydiant twristiaeth yn y gynhadledd newyddion ddyddiol, dywedodd Mr Drakeford na fydd hi'n bosib i'r diwydiant ddychwelyd eleni i fel yr oedd cyn y cyfyngiadau.

Mae hynny, meddai, yn unol â phryderon pobl am ymwelwyr yn dod i Gymru, ond dywedodd ei fod yn gobeithio darparu ryw gymorth i dwristiaeth ac y byddai llacio unrhyw gyfyngiadau yn cael ei reoli'n ofalus.

Disgrifiad o’r llun,

Gan gydymdeimlo â'r diwydiant, pwysleisiodd Mark Drakeford fod unrhyw lacio yn ddibynnol ar sêl bendith gymunedol

Mae llacio'r cyfyngiadau yn ddibynnol ar dystiolaeth fod lledaeniad Covid-19 yn dal ar drai, meddai Mr Drakeford.

Nododd fod nifer yr achosion newydd o Covid-19 sy'n cael eu hadrodd yn ddyddiol yn gostwng yn raddol - o 400 o achosion newydd y dydd ar ddechrau'r cyfnod clo o'i gymharu ag oddeutu 50 erbyn hyn.

Pe bai'r duedd yna'n parhau tan yr wythnos nesaf, dywedodd Mr Drakeford y bydd modd llacio mwy o gyfyngiadau pan fydd yr adolygiad nesaf.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi cadarnhau mewn datganiad bod cyfradd R - graddfa trosglwyddiad y feirws - yn 0.8 yng Nghymru, ac yn sefydlog ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r raddfa R yn sefydlog yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl Llywodraeth Cymru

Wrth gael ei holi am y system brofi, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus y bydd pawb mewn cartrefi gofal - yn breswylwyr a staff - wedi cael eu profi erbyn Mehefin 12.

Diolchodd i awdurdodau lleol a Fforwm Gofal Cymru am sicrhau hynny a dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd canlyniadau'r profion ar gael yn gynt.

Dywedodd hefyd fod byrddau iechyd yn hyfforddi mwy o staff i weithio mewn unedau gofal dwys rhag ofn y bydd ail don o achosion Covid-19 yn yr hydref.

Atal ail don

Mae "popeth yn cael ei wneud er mwyn ceisio atal ail don", meddai, ond bydd angen paratoi rhag ofn i hynny ddigwydd.

Ychwanegodd fod adolygiad o ysbytai dros dro yn cael ei gynnal.

Mae'r prif weinidog hefyd wedi diolch i blant sydd wedi cyfrannu at yr arolwg cenedlaethol ar gyfnod y feirws.

Mae'n dweud bod pawb wedi cael profiad unigryw yn ystod y cyfnod yma, ond mae'n "diolch i blant a phobl ifanc Cymru am eu gwydnwch arbennig yn ystod y pandemig".