Â鶹ԼÅÄ

Hyfforddwyr "yn y tywyllwch" dros ailgychwyn profion

  • Cyhoeddwyd
Rhydian Hughes o Bentrefoelas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hyfforddwr Rhydian Hughes o Bentrefoelas wedi gorfod rhoi'r gorau i'w waith ers mis Mawrth

Mae hyfforddwyr gyrru'n dweud bod yna ddiffyg gwybodaeth a chyngor ynglŷn â phryd fydd profion gyrru yn ailgychwyn.

Mae gwersi gyrru a'r profion wedi cael eu hatal yn ystod y pandemig coronofeirws, ac mae'r diwydiant yn teimlo bod angen mwy o arweiniad gan y llywodraeth.

"Mae'n andros o anodd," meddai Rhydian Hughes o Bentrefoelas, sydd yn rhedeg Ysgol Yrru Cymru.

"Dwi heb weithio ers i y cau lawr ym mis Mawrth. Disgyblion wedi bwcio profion... mae eu profion nhw wedi cael eu gohirio a dwi jyst yn teimlo dwi ddim wedi bod yn medru rhoi'r atebion i fy nisgyblion.

"Mae 'na dywyllwch mawr amdano fo. Diffyg gwybodaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ela Owen yn disgwyl am ddyddiad i gymryd ei phrawf gyrru

Cafodd prawf yrru Ela Owen, 17, o Lanrwst ei ohirio ym mis Mawrth. Ei gobaith ydi ad-drefnu ar gyfer mis Gorffennaf, ond does dim sicrwydd bydd hynny'n bosib.

"Ro'n i'n siomedig, ac wedi edrych ymlaen i fynd allan a chael independence a dreifio ar ben fy hun heb mam a dad yn gorfod mynd a fi i bethau," meddai Ela wrth Cymru Fyw.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Safonau Gyrru, DVSA eu bod yn sylweddoli bod hi'n adeg anodd ar y diwydiant ond mai'r flaenoriaeth yw ceisio cadw pawb yn ddiogel a rhwystro lledaeniad Covid-19.

Ychwanegodd: "Mi fyddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa ac yn rhoi gwybodaeth ychwanegol cyn gynted â bo modd."