Dylai band-eang fod mor hanfodol â 'nwy, trydan a dŵr'

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dylai gwasanaeth band-eang fod mor hanfodol â "nwy, trydan a dŵr" fel bod gweithio o adref yn opsiwn i bobl ymhobman, medd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Sophie Howe'n rhagweld "patrwm cynyddol" o bobl yn gweithio o'u cartrefi wedi diwedd y cyfnod cloi, a allai leihau teithiau i'r gweithle a helpu'r amgylchedd.

Ond mae yna alw am wella'r seilwaith band-eang fel bod trigolion ardaloedd gwledig ddim dan anfantais.

Mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans, wedi disgrifio'r rhwystredigaeth o orfod cymryd rhan mewn cyfarfodydd dros y ffôn am ei fod yn byw mewn ardal heb gysylltiad rhyngrwyd cyflym.

Disgrifiad o'r llun, Mae diffyg band-eang digonol yn amharu ar sgyrsiau'r Cynghorydd Hugh Evans ag arweinwyr cynghorau eraill

"Pan dwi mewn cyfarfod dwi'n hoffi gweld sut mae pobl yn ymateb, sut mae cyrff nhw yn ymateb i be' dech hi'n ddweud," meddai'r Cynghorydd Evans, sy'n gorfod arwain y cyngor o'i fferm ger Rhyd-y-Meudwy, Rhuthun.

"Dwi'm yn gweld hwnna, so dwi'n gorfod geshio be' sy'n mynd ymlaen.

"Mae pwynt yn dod pan mae pobl sydd eisiau gweithio adre, os 'den nhw ddim yn cael y cyfle i wneud hynny fel pobl yn y trefi, dydy hynny ddim yn deg.

"Dwi'n teimlo bod rhywbeth ddim cweit yn iawn yn sut mae gweinidogion yn Caerdydd a Llundain, mae diffyg dealltwriaeth o sut mae pethau'n gweithio yng nghefn gwlad.

"Mae'n rhaid i'r byd digidol cael buddsoddiad a mae'n rhaid i gweinidogion yn Gaerdydd a Llundain ymateb i hyn."

Ffynhonnell y llun, Sophie Howe

Disgrifiad o'r llun, Mae Sophie Howe'n gweld posibiliadau i drawsnewid economïau gwledig wedi i'r cyfnod cloi ddod i ben

Yn ôl Sophie Howe, fe allai mwy o weithio gartref helpu Llywodraeth Cymru arbed arian ar brosiectau fyddai wedi lleihau allyriadau carbon.

Gofynnodd: "Beth petawn ni'n symud y math o draffig sydd oddi ar y ffyrdd nawr, neu hyd yn oed ychydig o ostyngiad, wrth i bobl weithio o'r cartref yn lle teithio i'r gwaith?"

Mewn cynllun pum pwynt sy'n awgrymu sut ddylai Llywodraeth Cymru wario'i chyllideb atodol o £2.4bn, mae Ms Howe'n galw am ymchwil pellach sut gall band-eang fod yn "wasanaeth cyhoeddus allweddol" yng Nghymru.

"Ystyriwch sut y gellir trawsnewid economïau gwledig petai'r ffordd yma o weithio'n dod yn ffordd 'normal newydd'.

"Mae rhywfaint o'r dystiolaeth yn awgrymu y byddai pobl sy'n byw mewn dinasoedd ar hyn o bryd yn fwy tebygol o symud yn ôl i gymunedau gwledig petasai nhw â'r seilwaith priodol i weithio o'r cartref."

Ffynhonnell y llun, FFION STORER-JONES

Disgrifiad o'r llun, Mae Ffion Storer-Jones wedi cofnodi'r holl fannau lleol ble mae modd cael signal 4G

Mae Ffion Storer-Jones, o ardal Dolanog yn Sir Drefaldwyn, yn aml yn gorfod mynd i ben bryn er mwyn gwneud galwad ffôn gwaith brys neu rannu dogfennau mawr.

Wedi trafferthion cymryd rhan mewn cyfarfodydd, mae bellach wedi cofnodi'r holl fannau lleol ble mae modd cael signal 4G.

Pan ddaeth y cyfyngiadau i rym, roedd yn gweithio o adref i gorff iechyd rhyngwladol, ac yn ymgyrchu ar ran prosiect sy'n ceisio sicrhau fod pobl ifanc yn gallu byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig.

Roedd ceisio gwneud hynny mewn ardal mor wledig "yn heriol", meddai, a thywydd garw'n amharu ar adael y tÅ· i sicrhau cysylltiad.

Ychwanegodd fod defnyddio data, yn niffyg cytundeb di-ben-draw "yn ddrud".

Buddsoddiad llywodraethau

Mae 95% o gartrefi a busnesau Cymru bellach ar gysylltiad cyflym iawn, medd cwmni Think Broadband - mwy nag yn Ffrainc a'r Almaen, a chynnydd o 44% ers 2013.

Mae 91% o gartrefi Sir Ddinbych â chysylltiad cyflym iawn.

Dydy'r maes telegyfathrebu ddim wedi ei ddatganoli ond mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu rhaglen Superfast Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gwneud buddsoddiad sector cyhoeddus o £200miliwn sydd wedi rhoi band eang cyflym iawn i fwy na 95% o adeiladau."

"Mae gennym amrywiaeth o fesurau i helpu'r rheini sydd heb gysylltiad o hyd, gan gynnwys cronfa gymunedol gwerth £10miliwn sy'n destun gwaith ar y cyd rhyngon ni, Sir Ddinbych a siroedd eraill."

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai ardaloedd yn anodd i'w cyrraedd, gan gynnwyd Pandy yn Nyffryn Ceiriog

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod wedi gwario £1.7bn ar wella cysylltiadau band-eang ar draws y DU wlad, ond yn cydnabod "bod rhagor i'w wneud".

"Mae'r arian hwnnw wedi helpu sicrhau cysylltiad cyflym iawn i 92% o'r eiddo yn Sir Ddinbych," meddai.

Ychwanegodd fod £5bn ychwanegol wedi ei glustnodi i sicrhau'r cysylltiadau cyflymaf i'r ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd.

Amlygu gwahaniaethau

Ers mis Mawrth eleni, mae hawl gyfreithiol i unrhyw un dderbyn cyflymder band-eang o leiaf 10 megabit yr eiliad.

Dywed Elinor Williams ar ran y rheoleiddiwr Ofcom Cymru: "Mae'n drueni bod yr argyfwng presennol ond wedi amlygu'r gwahaniaeth sy'n bod rhwng yr ardaloedd trefol a'r ardaloedd gwledig yn nghyd-destun gwasanaethau band-eang."

"Mae'n flaenoriaeth i Ofcom. Mae'r gwelliannau yn parhau, ac yn parhau yn ystod y cyfnod yma o gyfyngiadau, a lot o'r gwelliannau hynny yn digwydd mewn pentrefi cefn gwlad.

"Mae'n bwysig cydnabod yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig nad ffeibr yw'r unig ateb.

"Mae rhai'n mynd i orfod bodloni ar dechnolegau eraill, er enghraifft mae ein signal 4G ni yn gwella trwy'r amser."

"Mae 'na dechnolegau eraill fel cysylltiad di-wifr."