Â鶹ԼÅÄ

Y sector ffilm a theledu 'angen help' i ailgychwyn

  • Cyhoeddwyd
His Dark MaterialsFfynhonnell y llun, Bad Wolf/Â鶹ԼÅÄ/HBO
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhannau o His Dark Materials eu ffilmio ym Mhencadlys Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd

Mae'r diwydiant drama teledu yng Nghymru yn wynebu amser "anodd" gyda disgwyl costau ychwanegol "sylweddol" wrth ddarparu ar gyfer pellter cymdeithasol.

Yn ôl Bad Wolf Studios yng Nghaerdydd, cynhyrchwyr His Dark Materials, mi fydd ailgychwyn cynyrchiadau yn ddrud ac mae cwestiynau ynghylch talu am yswiriant.

"Bydd yn galed. Mae gennym stiwdios yn wag. Mae'n anodd. Ac nid ydym wir yn gwybod a fydd yn gwella y flwyddyn nesaf," meddai Natasha Hale, Prif Swyddog Gweithredol Bad Wolf.

Roedd y cwmni, a gyflogodd 800 o bobl y llynedd, yn ffilmio'r ail gyfres o His Dark Materials pan gyhoeddwyd y mesurau cloi.

"Roedd yn sioc go iawn. Roedd yn rhaid i ni roi'r gorau i ffilmio er mwyn darparu ar gyfer pellter cymdeithasol. Roedd yn hynod o siomedig i bawb, ac yn hynod gostus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha Hale yn poeni pwy fydd yn talu am yswiriant i'r diwydiant yn y dyfodol

Bu'n rhaid i'r cwmni roi hanner y 150 o weithwyr llawrydd ar gynllun seibiant cyflog y llywodraeth, tra bod yr hanner arall wedi colli eu swyddi.

Er bod dau gynhyrchiad sydd wedi'u hamserlennu ar gyfer eleni wedi'u gohirio tan y flwyddyn nesaf, mae Bad Wolf yn anelu at ailgychwyn rhywfaint o ffilmio ym mis Medi ond bydd gwneud y ddiogel "yn costio llawer mwy o arian" yn ôl Natasha.

Fodd bynnag, y pryder mwyaf i Bad Wolf a chwmnïau annibynnol eraill yw yswiriant i'w hamddiffyn rhag cyfnod cloi arall.

Dywed Natasha Hale: "Pwy sy'n mynd i gymryd cyfrifoldeb am hynny? Nid ydym yn gwybod eto.

"Rwy'n credu mewn gwirionedd y bydd yn rhaid i'r llywodraeth wneud rhywbeth oherwydd nid wyf yn siŵr sut y bydd cynyrchiadau yn mynd yn ôl ar eu traed heb ryw fath o gefnogaeth ar y diffyg yswiriant."

Dywedodd llefarydd o Adran Chwaraeon, Cyfryngau a Diwylliant Llywodraeth y DU: "Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector sgrin i ddeall maint llawn y pryderon ynghylch yswiriant, ac archwilio ffyrdd y gellir mynd i'r afael â nhw yn effeithiol."

Disgrifiad o’r llun,

Heriau ymarferol ffilmio cyfres opera sebon sy'n poeni Nest Gwenllian Roberts

Ar set Pobol y Cwm mae trafodaethau hefyd yn parhau. Mae cynhyrchydd y gyfres, Nest Gwenllian Roberts, eisiau i'r cynhyrchiad ailgychwyn cyn gynted ag y mae cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu ond mae'n derbyn y bydd ailgreu agosatrwydd drama yn heriol.

"Cwffio, caru a magu ydy sebon a 'da ni'n dal i ymdrechu i gyflawni hynny o fewn y cyfyngiadau a thrwy gadw pellter cymdeithasol.

"Byddwch yn colli gweld pobl yn cofleidio ei gilydd ond gallwn dwyllo pethau wrth olygu, gallwn dwyllo onglau camera sy'n gwneud i bobl edrych yn agosach nag y maent mewn gwirionedd," meddai.

Lluniwyd set o ganllawiau gan ddarlledwyr a Pact, cymdeithas fasnach y cyfryngau, er mwyn helpu cwmnïau cynhyrchu i fynd yn ôl i ffilmio. Mae'r canllawiau'n cynnwys cadw pawb dau fetr ar wahân, rhoi'ch colur eich hun a lleihau nifer y bobl ar y set.

I Simon Curtis, o Equity, undeb i berfformwyr a gweithwyr creadigol, diogelwch yw'r flaenoriaeth ond mae'n cydnabod y gallai'r gost fod yn "anodd" i gwmnïau llai. Mae'n galw am fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i sefydlogi'r diwydiant.

"Mae'n faes y mae Llywodraeth (Cymru) eisoes wedi buddsoddi'n helaeth ynddo, ond mae'n creu gwerth sylweddol i Gymru," meddai. "Felly, bydd buddsoddiad cymharol fach nawr yn gweld enillion yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi'r gwytnwch, y creadigrwydd a'r bartneriaeth sy'n cael ei ddangos gan y sector."