Â鶹ԼÅÄ

Pobl LDHT 'yn cael eu gwrthod' yn ystod y cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Llun baner enfysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r faner enfys - sydd wedi bod yn symbol mudiadau LHDT ers blynyddoedd - wedi cael ei ddefnyddio llawer yn ystod y pandemig

Mae elusen Stonewall Cymru wedi dweud wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod y cyfyngiadau presennol ar symudiadau unigolion yn ynysu rhai pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT).

Mae'r elusen yn ofni bod rhai unigolion yn cael eu gwthio i gyrion cymdeithas yn sgil y pandemig a bod hynny yn cael effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl.

"Mae'n wir i ddweud bod yna bryderon a heriau ychwanegol yn wynebu pobl LHDT yn ystod y cyfnod yma," meddai Iestyn Wyn o'r elusen wrth raglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.

"Fel cymuned mae rhai ohonom yn wynebu fwy o wahaniaethu neu gam-drin.

"'Da ni'n clywed straeon am bobl sydd yn byw mewn tai lle maen nhw yn cael eu gwrthod oherwydd eu hunaniaeth LHDT nhw ac yn wynebu camdriniaeth a gwahaniaethu ar sail eu hunaniaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Wyn o Stonewall Cymru'n dweud bod mwy o wahaniaethu yn digwydd yn ystod y pandemig

"Ma' hynny, yn amlwg, yn bryder sydd yn bodoli beth bynnag, drwy'r flwyddyn ond, yn amlwg, pan ma' rhywun yn hunan ynysu neu yn styc tu fewn hefo rhwydwaith sydd fod yn eu cefnogi nhw yn eu herbyn nhw, mae hynna'n achosi pryder mawr."

Dros yr wythnosau diwethaf, mae elusennau fel Stonewall wedi addasu eu gwasanaethau er mwyn cynorthwyo unigolion sydd am gael clust i wrando.

Yn ôl Iestyn Wyn, mae'r sector yn cyd-weithio a thrafod i ddeall y darlun yn iawn er mwyn gallu cynnig cymorth penodol a phriodol.

'Mae 'na gefnogaeth ar gael'

Un sydd yn teimlo'n gryf am gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn ydy'r ymgyrchydd hawliau Christian Webb.

"Er mi fydd sawl oasis ar gael yn y sefyllfa yma, mi fydd hefyd nadroedd sydd moen cymryd mantais o bobl yn y cyfnod yma," meddai Christian.

Yn ôl Christian, mae cymorth a chefnogaeth yn hollbwysig i unigolion LHDT ond hefyd i'r bobl sydd yn eu bywydau, fel ffrindiau a theulu.

"Ma' angen i ni sicrhau bod gwasanaethau swyddogol gyda phobl sydd wedi eu hyfforddi yna i gefnogi pobl ifanc. A, hefyd, bod pobl ifanc yn cysylltu gyda'i gilydd er mwyn teimlo'n llai unig yn ystod y cyfnod 'ma.

Ffynhonnell y llun, Christian Webb
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai tensiynau gynyddu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, meddai Christian Webb

"Pan des i mas, yn 14 oed, doedd fy mam i ddim yn deall yn llawn beth oedd hwnna'n golygu," meddai Christian.

"Mae hi'n Gristnogol dros ben. Erbyn hyn mae ein perthynas ni'r gorau mae e byth wedi bod ond ar y pryd, roedd yna eiliadau doedd hi ddim yn deall ac roedd hi'n dweud y peth anghywir.

"Yn enwedig nawr bo' ni gyd yn byw ar ben ein gilydd, does dim lle i fynd mas i gael saib o'r holl sefyllfa, mae'r tensiynau hynny yn gallu cynyddu."

Gobaith Christian yw bod rhwydweithiau yn gallu tynnu at ei gilydd dros y misoedd nesaf er mwyn cefnogi'r unigolion mwyaf bregus.

Wrth ymateb i'r stori yma, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymwybodol o'r heriau mae pobl yn wynebu yn sgil y cyfyngiadau cymdeithasol. Mae'r llywodraeth yn annog grwpiau i gyfarfod yn ddigidol os yn bosib.

Pride Rhithiol Cymru 2020: 'Rheswm i ddathlu'

Dros fisoedd yr haf, mae digwyddiadau ar hyd a lled Cymru yn cael eu trefnu i godi ymwybyddiaeth am hawliau'r gymuned LHDT a dathlu balchder.

Mae nifer ohonyn nhw eisoes wedi eu gohirio neu eu canslo yn sgil y pandemig iechyd.

Mae grŵp newydd wedi ei ffurfio yng Nghaerdydd, o'r enw 'LGBTQymru', sydd yn trefnu'r Pride cyntaf ar-lein.

Nod y digwyddiad cynhwysol yw sicrhau bod presenoldeb gweledol gan bobl LHDT, er gwaetha diffyg y digwyddiadau.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Daeth 15,000 o bobl i Å´yl Pride Cymru yng Nghaerdydd yn 2019

Yn ôl Craig Stephenson, dirprwy gadeirydd y grŵp, mae'r ŵyl yn gyfle i godi gwên yn ystod cyfnod o galedi.

"Ni'n gwahodd pobl i gymryd rhan. Fel grŵp 'da ni wedi estyn allan a 'da ni'n rili hapus bod [grwpiau] Pride o'r Rhondda, o Fangor, y Cymoedd, y Barri, Llanilltud Fawr ac Abertawe yn barod wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymuno hefo ni."

Fe fydd yr ŵyl yn digwydd ar-lein ar 24-25 Gorffennaf. Gobaith y grŵp yw cael rhaglen gyfoes a chynhwysol o gerddoriaeth, barddoniaeth a pherfformio i ddathlu.