Â鶹ԼÅÄ

'Gorliwio' effaith posib lledaeniad coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
GraffegFfynhonnell y llun, Orbon Alija/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'r rhif R yng Nghymru o dan un

Mae ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi gorliwio rhywfaint o effaith posib graddau gwahanol o ledaenu'r coronafeirws.

Mae'r dadansoddiad diweddaraf yn awgrymu y byddai graddfa R o 0.8 yn arwain at 500 o farwolaethau ychwanegol erbyn dechrau Awst a chymaint â 7,000 pe byddai yn cyrraedd 1.1.

Yr amcangyfrif cychwynnol ar 8 Mai oedd y byddai R o 0.8 wedi arwain at 800 yn fwy o bobl yn marw a 7,200 pe byddai'r R yn 1.1 ar gyfer yr un cyfnod.

Yng Nghymru mae'r dadansoddiad mwyaf diweddar yn awgrymu bod y raddfa rhwng 0.7 ac 1 ond yn "dal o dan 1".

Mae gweinidogion y llywodraeth a swyddogion wedi dweud eto mai'r nod yw cadw R o dan 1.

Beth yw graddfa R?

Dyma'r nifer o bobl ar gyfartaledd y gall person sydd yn sâl basio'r feirws ymlaen.

Felly os yw'r rhif R yn 1, ar gyfartaledd fe fyddai 10 person sy'n dioddef o Covid-19 yn heintio 10 person arall.

Ond os yw R yn 0.8 yna byddai 10 person sy'n sâl efo'r haint yn heintio 8 arall.

Gan fod y dadasoddiad yng Nghymru yn dwedu fod R o dan 1 mae'r papur diweddaraf gan Gell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru yn dweud bod "nifer yr achosion yn debygol o fod yn lleihau."

Mae R wedi "lleihau yng Nghymru ers i bellter cymdeithasol a'r cyfyngiadau gael eu cyflwyno" meddai'r papur.

Yn ychwanegol dywed y papur bod hi'n "debygol ein bod yn gweld tri tharddiad gwahanol ar y foment".

  • R yn disgyn yn y gymuned ac yn debygol o fod o dan 1;

  • Ysbytai neu safleoedd iechyd eraill lle mae R rhwng 0.1 a 0.5;

  • Cartrefi gofal lle mae'r haint yn gallu symud yn gyflym.

Mae'r papur hefyd yn dweud bod yna adolygiad wedi bod o'r gwahanol raddau o R gydag achosion posib, marwolaethau, a'r rhai sy'n mynd i'r ysbyty rhwng 8 Mai ac 7 Awst.

Dim 'effaith imiwnedd torfol' eto

Yn ogystal mae'n egluro'r newid yn yr amcangyfrifon oherwydd bod yr amcangyfrif o'r amser roedd yr haint yn cael ei drosglwyddo, ymhlith achosion oedd yn dilyn ei gilydd, wedi gostwng o 6 i 4.7 diwrnod.

Mae angen i tua 64% o'r boblogaeth ddatblygu gwrthgyrff er mwyn i'r feirws "weld effaith imiwnedd torfol".

Dyw hi ddim yn debygol fod "mwy na 10% o bobl yng Nghymru wedi cael y feirws eto felly rydyn ni yn bell iawn i ffwrdd o effeithiau imiwnedd torfol" medd y ddogfen.