Beth sydd yn eich cwpwrdd?

Ydi penderfynu beth i'w goginio yn achosi ychydig o gur pen ar hyn o bryd?

Peidiwch â phoeni, mae gennym ni ysbrydoliaeth i chi gan bobl sydd wedi bod yn chwilota yng nghefn y cwpwrdd am gynhwysion, ac wedi llwyddo i wneud prydau bwyd blasus iawn.

Dyma bump fideo sy'n egluro sut maen nhw wedi creu pryd allan o'r hyn oedd ganddyn nhw:

Paella Llyr Serw

Disgrifiad o'r fideo, "Pryd blasus, maethlon, ac yn ddigon hawdd i 'neud."

Mae Llyr yn gogydd sy'n byw yn Llanrwst. Penderfynodd ddod â 'chydig o flas Sbaenaidd i'r bwrdd bwyd, a defnyddio pethau sydd wedi bod yng nghefn y rhewgell ers cryn amser...

Cynhwysion:

  • Olew
  • Cyw iâr
  • Nionyn
  • Garlleg
  • Pupur
  • Paprika
  • Chorizo
  • Reis paella
  • Gwin gwyn
  • Stoc (esgyrn y cyw iâr gyda 2 nionyn, moron, cennin, deilen bae, clof, 2 ewin garlleg, litr o ddŵr)
  • Saffrwm sych
  • Tomatos (hanner tun)
  • Ffa gwyrdd
  • Pys
  • Anchovies
  • Lemwn a menyn i'w weini

Wyau Twrcaidd Llio Angharad

Disgrifiad o'r fideo, "Syml iawn i'w 'neud."

Dyma un o hoff ryseitiau Llio, sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae hi'n ceisio defnyddio popeth sydd ganddi yn yr oergell a'r cypyrddau i osgoi gorfod mynd allan o'r tÅ· mor aml i siopa am fwy o fwyd.

Cynhwysion:

  • Olew
  • Halen
  • Tsili
  • Iogwrt
  • Garlleg
  • Finegr
  • Wyau
  • Menyn
  • Bara
  • Persli i'w weini

Bisgedi Blodau Gwyllt y Gwanwyn Marian Haf

Disgrifiad o'r fideo, "Ni'n mynd i gael pwdin cyn swper heno!"

Yng Ngheredigion mae'r brintwraig Marian Haf yn byw. Mae hi wedi defnyddio cynhwysion o'r ardal o'i chwmpas, ynghyd â chynnwys ei chwpwrdd, ar gyfer ei bisgedi arbennig hi... ac wedi cael help ei phlant i'w coginio

Cynhwysion:

  • Menyn
  • Blawd
  • Wyau
  • Lemwn
  • Siwgr
  • Blodau gwyllt

Stiw ffacbys (lentils) Seiriol Dawes-Hughes

Disgrifiad o'r fideo, "Allwch chi byth gael gormod o garlleg!"

Mae gan Seiriol o Gaernarfon storfa o fwydydd tun, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfnod yma.

Cynhwysion:

  • Garlleg
  • Tomatos
  • Olew olewydd
  • Ffacbys/corbys (lentils)
  • Sbigoglys (spinach)
  • Sudd hanner lemwn
  • Mwstard
  • Crème fraîche
  • Caws (fel caws gafr neu feta)
  • Halen a phupur

Bîns ar dost cartref Sioned Pearson

Disgrifiad o'r fideo, "Mae o'n faethlon, a wnaeth pawb ei fwynhau o!"

Sicrhau bwyd maethlon ar gyfer ei theulu ydi her Sioned o Bwllheli yn ystod y pandemig. Mae hi wedi dod o hyd i rysáit i wneud fersiwn cartref o hen ffefryn.

Cynhwysion:

  • ±Ê³Ü°ùé±ð tomato
  • Sialóts (shallots)
  • Garlleg
  • Perlysiau cymysg
  • Smoked paprika
  • Tun o ffa cannellini
  • Halen a phupur
  • Olew
  • Saws Worcester
  • Passata
  • ²Ñê±ô
  • Tost gyda digon o fenyn a llond llaw o gaws i'w weini

Cadwch lygad am fwy o fideos Beth Sydd Yn Eich Cwpwrdd ar dudalen Facebook Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw i'ch ysbrydoli!

Hefyd o ddiddordeb: