Â鶹ԼÅÄ

Elan Isaac: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cynhyrchydd a'r coreograffydd Elan Isaac o Gaerdydd wrth ei bodd yn bwyta a choginio, ac yn dipyn o arbenigwraig ar baratoi bwyd llysieuol erbyn hyn...

Ffynhonnell y llun, Elan Isaac

Beth sy' i de heno?

Bowlen o ramen gyda tofu.

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Just fi ac Owen a dwi'n siŵr fod Dora'r ci rhywle yn aros am rhyw sbarion!

Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?

Y sialens mwyaf i fi yw penderfynu pa fath o fwyd dwi eisiau byta! Mae Owen yn hawdd i'w blesio pan mae'n dod at fwyd, ac er 'mod i'n licio pob math o fwyd, dwi isho i bob pryd fod y pryd gore dwi erioed wedi gael... felly ma' hynna bach yn annoying.

Ffynhonnell y llun, Elan Isaac
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen wrth ei fodd gyda'r bwyd me Elan yn ei baratoi

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Dwi'n dwli bwyta a choginio bwyd Eidalaidd. Pasta oedd un o'r pethau cyntaf dwi'n cofio Mam yn dysgu fi sut i goginio. Os wyt ti'n gallu gwneud saws pasta da, galli di wneud unrhywbeth.

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Os dwi'n starfo ac angen bwyta yn gloi, oes rhywbeth well na ŵy ar dost? Fy ffefryn i yw Turkish Eggs sef ŵy a'r fara sourdough hefo iogwrt a perlysiau a harrissa - iym!

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Dwi wedi sylwi 'mod i'n bwyta lot mwy o fwydydd llysieuol dyddie yma, y rheswm mwyaf yw achos bod o'n rhatach! Er 'mod i'r mwynhau cig a physgod nawr ac yn y man, dwi'n tueddu i greu prydau heb gig fel stiw beans hefo guacamole a reis neu cyri hefo chickpeas.

Ffynhonnell y llun, Elan Isaac
Disgrifiad o’r llun,

Powlen o ramen a tofu sydd i de heno

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Un o fy hoff brydoedd yw meatballs a spaghetti ond hefyd dwi yn DWLI ar chippy da hefo gravy a mushy peas!

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Ma'r siop gornel ar bwys tŷ ni yn gwerthu math o instant noodles ac os dwi wedi blino a sgen i ddim egni i goginio, nai brynu'r blas cyri a blas cyw iâr a'i gymysgu. Delish.

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?

Gallai ddim really meddwl am unrhywbeth rhy crazy fi 'di byta - nes i gal ostrich burger unwaith mewn gŵyl fwyd... odd o'n reit neis os dwi'n cofio'n iawn!

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Pan o'n i'n mynd i aros hefo Nain a Taid pan o'n i'n fach, oedd Taid yn gwneud 'ŵy mewn cwpan' i fi bob tro - sef ŵy wedi ei ferwi yn feddal, wedi ei gymysgu hefo loads o fenyn a tost soldiwrs! Dwi nawr wedi dysgu sut i 'neud o yn union fel oedd Taid arfer gwneud - bendigedig!

Ffynhonnell y llun, Elan Isaac

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Y tip gore baswn i'n rhoi pan yn coginio ydy i ddefnyddio ciwbiau stoc mewn basically unrhywbeth - saws pasta, cyri - ma stoc yn gwneud i bopeth flasu'n well! Hefyd i fwynhau y broses o goginio pryd - mae o wir yn tawelu fy meddwl i ar ôl diwrnod stressful.

Beth oedd dy hoff bryd o fwyd erioed?

Does dim byd yn curo cinio dydd Sul Mam - ma' hi'n gwneud y tatws rhost gore erioed!

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Dwi wir yn caru byta felly dwi'n eitha da am drio bwydydd newydd ond dwi ddim y ffan mwyaf o afu a pethe fel 'na!

Ffynhonnell y llun, Elan Isaac
Disgrifiad o’r llun,

Does dim afu ar gyfyl y pryd bwyd yma!

Efallai o ddiddordeb: