Â鶹ԼÅÄ

Dorian Morgan: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd
Dorian MorganFfynhonnell y llun, Dorian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dorian Morgan

Mae Dorian Morgan o Gaerdydd yn gyfieithydd sydd â diddordeb brwd mewn bwyta allan.

Mae e wedi teithio i bob un prifddinas yn Ewrop, gan gael blas ar wledda yn rhai o fwytai gorau'r byd. Ers 2017 mae Dorian wedi trawsnewid ei ddeiet ac wedi colli tair stôn.

Be' sy' ar blât Dorian erbyn hyn?

Beth sy' i de heno?

Meatballs a Spaghetti.

Ffynhonnell y llun, Dorian Morgan

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Fi. O flaen y teledu yn amlach na pheidio. Habit gwael fi'n gwbod!

Beth yw'r sialens fwyaf i ti wrth benderfynu be sy' i de?

Y sialens fwya' yw beth sydd ar gael i fwyta. Fi ddim wastad yn siopa am fwyd yn wythnosol, fe wnâ i fynd yn ddyddiol a phrynu beth sydd ishe arna i. Dyw rhywun ddim yn gwastraffu cymaint wedyn. Ond wastad yn teimlo mai llond ffrij o bethau random sydd gyda fi.

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Sai'n arbenigwr ar ddim byd. Er ddylen i fod o 'styried faint 'wy'n darllen am fwyd! Wedi dechrau 'neud rostis tatws neis yn y ffwrn yn ddiweddar. Y cyfan sydd ei eisiau yw tatws, winwns, halen, pupur ac ŵy.

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Unrhyw beth gyda phasta. Tiwna, shibwns a mayonnaise fel arfer. Neu beans ar dost (ac ŵy wedi'i ffrio ar ei ben) gyda bach o sôs brown ar ochr y plât.

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Ydyn. Mis Hydref 2017, 'nes i ddechau mynd i ddosbarth colli pwyse (sy'n cwrdd ar dop y stryd lle fi'n byw). Fi'n 5 troedfedd 5 modfedd, felly ma' bod yn fyr yn dangos y pechodau i gyd. O'dd y bwyd ro'n i'n bwyta yn y tŷ bron iawn yn brydau parod i gyd a llwyth o bethau melys. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, ma' tair stôn wedi mynd.

Felly dwi wedi gorfod newid y ffordd dwi'n bwyta. Coginio bron popeth o scratch. A meddwl am beth fi'n bwyta. Fi hefyd yn bwyta lot llai o siocled a phwdins - sef y man gwan go iawn. Wedi gweud hynny, un o'm diddordebau pennaf yw bwyta mas a thrio llefydd newydd - a fyddai dal yn gwneud hynny. Ond pan fyddai adre - fi'n fwy gofalus.

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?

Ar ôl teithio i bob gwlad yn Ewrop dros y blynyddoedd, mae'n haws weithie peidio gofyn beth chi'n fwyta! Ges i sawl peth digon anghyffredin yng Ngwlad yr Iâ - gan gynnwys cig pâl (puffin).

Ffynhonnell y llun, Dorian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dorian Morgan yn oerfel Moscow

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Ble ma' dechre? Ma'n dibynnu ar y'n hwylie i. Allith fod yn bryd o fwyd Indiaidd neu'r bwydydd hynny ry'n ni'n eu galw'n comfort food. Shepherd's pie gyda digon o fenyn yn y tatws. French onion soup yn un arall. O ran pwdinau, cheesecake neu pavlova. Crymbl hefyd. A sticky toffee pudding. Wedes i bod dant melys gyda fi!

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Super Noodles blas ffowlyn. A'r caws 'na sy'n dod mewn tiwb pâst dannedd!

Ffynhonnell y llun, Dorian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Gwledd wnaeth Dorian ei fwynhau yn El Celler de Can Roca yn Sbaen, un o fwytai gorau'r byd

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Cinio dydd Sul siŵr o fod. Mae'n dod ag atgofion o deulu a phlentyndod. Dad sydd wastad yn coginio cinio dydd Sul yn tŷ ni. O'dd e'n sâl un Nadolig, a Mam a finne'n poeni y bydde'n rhaid i ni goginio!

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Prynwch winws wedi torri'n barod. Fi wedi dod yn agos sawl tro at dorri mysedd. A byddwch chi ddim yn llefen chwaith o'u prynu wedi torri'n barod. S'dim cywilydd o gwbl yn y peth!

Beth oedd dy hoff bryd o fwyd erioed?

Deg mlynedd 'nôl, bues i'n ddigon lwcus i fwyta yn El Bulli yn Sbaen. Ar y pryd, dyma oedd tŷ bwyta gorau'r byd. O'dd 2 filiwn o bobl yn trio cael bwrdd yno a dim ond 8,000 yn llwyddo.

Am brofiad! Bron i 30 o gyrsiau - a phob un yn ddigon o ryfeddod. Ro'dd e'n fwy na phryd o fwyd. O'dd e'n plethu gwyddoniaeth gydag elfennau theatrig hefyd. A bwyd fyddai'n gofio am weddill fy oes. Mae Le Manoir Aux Quat' Saisons ger Rhydychen (lle Raymond Blanc) yn trît go iawn hefyd.

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Fi'n eitha fussy. Fi ddim yn bwyta bwyd môr (ond fe wnâ i fwyta pysgod), seleri na madarch.

Efallai o ddiddordeb